Part of the debate – Senedd Cymru am 1:38 pm ar 21 Mehefin 2016.
Diolch. Jo Cox AS—gweithredydd angerddol, a dyngarwraig ddiwyro, ymgyrchydd egnïol a ffeminist ymrwymedig, ffrind, merch, chwaer, gwraig, mam, ac yn falch o fod yr AS dros Batley a Spen, y gymuned yn Swydd Efrog lle y magwyd hi. Roedd Jo Cox yn un ohonom ni, ac rydym ni i gyd wedi cael ein hysgwyd, ein cynhyrfu a'n digaloni i'r carn gan lofruddiaeth Jo. Ond diwrnod i gofio'r cyfraniad hynod arwyddocaol a gwerthfawr a wnaeth Jo Cox yn ei hamser llawer rhy fyr gyda ni yw heddiw.
Roeddwn yn ddigon ffodus i gwrdd â Jo er mai dim ond am gyfnod byr drwy Rwydwaith Menywod Llafur, felly cyn teyrnged heddiw, gofynnais am arweiniad gan y rhai a oedd yn adnabod Jo yn llawer iawn gwell na fi. Cyflawnodd Jo gymaint cyn mynd i mewn i Dŷ'r Cyffredin ychydig dros flwyddyn yn ôl, gydag Oxfam, yn Senedd Ewrop, a thrwy annog menywod Llafur i mewn i wleidyddiaeth. Jo oedd cadeirydd Rwydwaith Menywod Llafur o 2010 i 2014, yn rhan o dîm o fenywod gydag uchelgeisiau mawr i ddatblygu'r sefydliad i gefnogi a dod â merched Llafur o bob cefndir i mewn i'r parti ac i fywyd cyhoeddus. Roedd y canolbwyntio a'r penderfyniad a gyflwynodd Jo i Rwydwaith Menywod Llafur i fwrw ymlaen a chael pethau wedi'u gwneud mewn gwirionedd yn ganolbwyntio a phenderfyniad a oedd yn amlwg ym mhopeth yr oedd hi'n ei wneud. Ysgrifennodd ffrind a chydweithiwr i Jo yn ystod y dyddiau diwethaf sut yr oedd Jo yn cefnogi ac yn grymuso menywod eraill drwy, ‘Hanner eich dal ar eich traed a hanner eich gwthio ymlaen'.
Mae'r cynghreiriau a adeiladodd Jo a'r hyn a gyflawnodd yn ei 13 mis fel AS yn dyst nid yn unig i ddycnwch a dyfnder y profiad yr oedd hi'n ei roi i'r materion yr oedd hi'n canolbwyntio arnynt a'r achosion yr oedd hi'n eu hyrwyddo, ond hefyd i'w phersonoliaeth. Mae cyfeillion wedi dweud pa mor benderfynol o gadarnhaol a faint o fwndel o egni oedd Jo—grym natur a oedd yn mwynhau bywyd i'r eithaf. Maent wedi ysgrifennu sut, wrth fyfyrio ar fywyd Jo, nid yn unig yr hyn a wnaeth hi sy'n bwysig, ond y modd y gwnaeth hi ef: pŵer gweithredu cyffredin ac nid dim ond credu yn ei delfrydau, ond eu byw a gwneud rhywbeth i'w symud ymlaen bob un dydd. I mi, roedd Jo Cox yn ymgnawdoli popeth y dylai gwleidydd fod, ac, wrth i ni ddathlu bywyd Jo, gadewch i ni fynd yn ein blaenau gan adael i'w geiriau hi lunio ein gweithredoedd: mae gennym lawer mwy yn gyffredin â'n gilydd na'r hyn sy'n ein gwahanu. Diolch. Diolch yn fawr, Jo Cox AS.