<p>Cyfraddau Cyflogaeth</p>

Part of 2. 1. Cwestiynau i’r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 2:21 pm ar 21 Mehefin 2016.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Carwyn Jones Carwyn Jones Labour 2:21, 21 Mehefin 2016

(Cyfieithwyd)

Rwy'n rhybuddio’r Aelod i beidio ag edrych ar chwarter fel cyfnod arbennig o gynrychioliadol. Mae'n well edrych ar y duedd tymor hwy. Felly, er enghraifft, os edrychwn ni ar gyfraddau diweithdra a chyflogaeth yng Nghymru, rydym ni’n gweld tuedd sydd wedi bod ar waith am fwy na blwyddyn o ddiweithdra yn gostwng. Ni allwch chi gymryd chwarter a dweud, 'Wel, mae hynna’n nodweddiadol o'r economi o ran y duedd.'

O ran yr hyn a welwn yng Nghymru, rydym ni’n gweld diweithdra nawr, fel y dywedais, sy’n is nag yn yr Alban, yn is nag yn Lloegr, yn is nag yng Ngogledd Iwerddon. Mae yr un fath gyda diweithdra ymhlith pobl ifanc. Roeddwn i yn y Cyngor Prydeinig-Gwyddelig yr wythnos diwethaf ac, unwaith eto, gwelsom fod diweithdra ymhlith pobl ifanc yng Nghymru yn is nag yn yr Alban, Lloegr a Gogledd Iwerddon. Mae bron mor isel â Jersey, sy’n anarferol iawn i ni yn hanesyddol. Mae hynny'n arwydd bod y polisi gweithredol yr ydym ni wedi ei ddilyn i hyrwyddo Cymru ledled y byd ac i ddenu buddsoddiad a swyddi o bedwar ban byd yn gweithio. Pa un a fydd hynny’n dal i fod yn wir ar ôl dydd Iau, bydd yn rhaid i ni aros i weld.