Part of 2. 1. Cwestiynau i’r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 2:26 pm ar 21 Mehefin 2016.
Diolch yn fawr i’r Prif Weinidog am ei ateb. A gafodd o drafodaeth â nhw ynglŷn â’r refferendwm ar aelodaeth y Deyrnas Unedig o’r Undeb Ewropeaidd, ac yn arbennig ar y cwestiwn ar ba sicrwydd y mae Prif Weinidogion eraill y Deyrnas Unedig, yn ogystal â chi, wedi ei gael ynglŷn â’r hyn a fydd yn digwydd os bydd cyllid yn diflannu o Gymru ac o’r gwledydd datganoledig eraill oherwydd penderfyniad i dynnu allan o’r Undeb Ewropeaidd?