3. 2. Datganiad a Chyhoeddiad Busnes

Part of the debate – Senedd Cymru am 2:29 pm ar 21 Mehefin 2016.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Jane Hutt Jane Hutt Labour 2:29, 21 Mehefin 2016

(Cyfieithwyd)

Diolch, Lywydd. Rwyf wedi gwneud dau newid i fusnes yr wythnos hon: mae busnes heddiw bellach hefyd yn cynnwys datganiadau llafar ar yr ymchwiliad lleol cyhoeddus ynglŷn â’r M4 yng Nghasnewydd, a darlledu yng Nghymru. Ac mae busnes y tair wythnos nesaf fel y’i dangosir ar y datganiad a’r cyhoeddiad busnes, sydd ymhlith papurau'r cyfarfod sydd ar gael i'r Aelodau yn electronig.