Part of the debate – Senedd Cymru am 2:45 pm ar 21 Mehefin 2016.
A gaf i ofyn am ddatganiad neu ddadl yn amser y Llywodraeth ar ddarpariaeth ôl-addysg i bobl rhwng 19 a 25 oed sydd ag awtistiaeth yn benodol? Nid wyf yn arbennig o awyddus i fanylu ar waith achos etholwyr yma, ond rwyf yn teimlo bod yn rhaid i mi wneud yn gryno am ei bod wedi cyrraedd y pwynt lle'r oedd y famgu yn fy swyddfa ar ddydd Gwener, yn beichio crio am ei bod yn ceisio cadw ei hŵyr yn ysgol arbennig Maes-y-Coed am flwyddyn arall, un flwyddyn, hyd nes bydd cytundeb rhwng bwrdd iechyd prifysgol Abertawe Bro Morgannwg a'r adran addysg ynglŷn â dyfodol hirdymor ei hŵyr.
Mae ei hŵyr wedi ei effeithio’n fawr iawn, iawn—yn ddifrifol—gan awtistiaeth, a'r gwir amdani yw nad yw'r cyngor ar hyn o bryd yn cymeradwyo amgylchiadau eithriadol i ganiatáu i’w hŵyr aros yn yr ysgol honno: rhywle y mae ei hŵyr yn ddiogel. Felly, hoffwn ddatganiad am y ddarpariaeth ôl-addysg honno, darpariaeth 19-25, ond hefyd hoffwn ddeall pa ganllawiau yr ydych chi fel Llywodraeth yn eu rhoi ynglŷn â’r amgylchiadau eithriadol hynny. A bod yn onest, rydym wedi cael wythnos anodd iawn, iawn, gyda marwolaeth AS, a wnaeth llawer o waith ar gyfer awtistiaeth mewn gwirionedd, yn ôl yr hyn yr wyf wedi ei ddarllen, ac nid wyf am gael pobl yn dod i mewn i’m swyddfa yn beichio crio am fod eu hŵyr am gael ei daflu allan ar y strydoedd heb unrhyw ddarpariaeth o gwbl. Felly, er fy mod i'n siŵr y byddwch yn dweud y caf ddatganiad gan y Gweinidog maes o law, mae hwn yn fater brys. Felly, hoffwn ddatganiad brys ar hyn, os wnewch chi hynny, ysgrifennydd busnes, neu Weinidog busnes.
Hoffwn hefyd ategu pryderon David Rees ynglŷn â chyffordd 41. Rwy’n credu y bu cwestiwn yr wythnos diwethaf ac nid oedd amser i ateb y cwestiwn penodol hwnnw, ond mae angen i ni wybod, o ran y mesurau lliniaru—. Ar hyn o bryd, mae'r cyngor yn dweud na fyddant yn cael gwared ar y mesurau lliniaru hynny o gwmpas Port Talbot hyd oni fydd penderfyniad terfynol ar gyffordd 41. Felly, byddwn yn annog yr Ysgrifennydd newydd dros yr economi i ysgrifennu at Aelodau'r Cynulliad yn yr ardal honno, neu i gwrdd â nhw, er mwyn i ni allu dod i benderfyniad terfynol.