Part of the debate – Senedd Cymru am 2:47 pm ar 21 Mehefin 2016.
Mae ymroddiad y Llywodraeth hon yng Nghymru a’r Llywodraeth Lafur flaenorol tuag at metro de Cymru yn glodwiw, ac mae'n dangos gwir feiddgarwch o ran gweledigaeth ar gyfer datblygiad economaidd ac ar gyfer gwir gysylltedd. Ond, a allaf ofyn i'r rheolwr busnes am ddatganiad neu ddadl ynglŷn â phwysigrwydd cynigion metro’r de i bob rhan o dde Cymru, gan gynnwys y cymoedd mwy gorllewinol, canol Morgannwg, fel y Garw a'r Llynfi a'r Ogwr, ond hefyd ardal ehangach Pen-y-bont ar Ogwr ac Ogwr? Byddai hyn yn ein galluogi i archwilio sut y gall y cymunedau hyn wirioneddol elwa ar y cynigion cyffrous i wireddu'r potensial economaidd ac o ran teithio i'r gwaith yn y cymunedau hyn yn ogystal ag yn y cymoedd canolog a dwyreiniol, ac i sicrhau, dros amser a thros gyfnodau olynol y cynnig hwn, y gallwn sicrhau bod bysiau cyflym a rheilffyrdd ysgafn, tocynnau fforddiadwy i bawb ac amserlenni cydamseru yn cyrraedd pob rhan o’r de, nid dim ond y prif wythiennau. Ac yn olaf, a fyddai'r rheolwr busnes yn cytuno â mi y gallai’r broses o gyflwyno hwn a chynigion trafnidiaeth mawr eraill yng Nghymru gael ei niweidio’n ddifrifol os ydym yn gadael yr Undeb Ewropeaidd?