Part of the debate – Senedd Cymru am 2:50 pm ar 21 Mehefin 2016.
A allaf alw am ddau ddatganiad, os gwelwch yn dda, arweinydd y tŷ—y cyntaf gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd, Lles a Chwaraeon ynglŷn â throi rheolyddion calon i ffwrdd tuag at ddiwedd bywyd? Tynnwyd hyn i’m sylw gan achos trist Patricia Hastings o Landrillo-yn-Rhos a fu farw o ganlyniad i ddementia fasgwlaidd yn gynharach eleni. Yn anffodus, roedd aelodau o’i theulu yn gorfod ei gweld yn wynebu diffyg urddas o gael rheoliadur calon a berodd iddi ddioddef yn hirach ar ddiwedd ei hoes gan ei fod yn gweithredu pan oedd y broses naturiol o farwolaeth yn digwydd. Bydd Ysgrifennydd y Cabinet dros iechyd yn ymwybodol bod canllaw wedi ei gyhoeddi gan y Gymdeithas Cardiofasgwlar Prydeinig ar y cyd â'r Cyngor Cenedlaethol ar gyfer Gofal Lliniarol. Cyhoeddwyd hwn ym mis Mawrth 2015, ac eto nid yw wedi ei ystyried yn llawn gan Lywodraeth Cymru i’w weithredu yma yng Nghymru. Mae hyn 12 mis yn ddiweddarach. Gallai hyn fod wedi rhoi rhywfaint o urddas i Patricia Hastings ar ddiwedd ei bywyd ac rwy'n siŵr bod llawer o bobl eraill yn wynebu sefyllfaoedd tebyg iddi a phrofiad trist iawn ei theulu. Felly, byddwn yn gwerthfawrogi pe bai modd i mi ofyn am ddatganiad ar hynny.
Yn ail, a allaf hefyd alw am ddatganiad gan y Gweinidog dros Gymunedau a Phlant ar ddiwrnod coffa brwydr y Somme, a gynhelir wrth gwrs ar 1 Gorffennaf eleni? Collodd degau o filoedd o filwyr Cymreig eu bywydau yng nghanol erchyllterau ofnadwy’r rhyfela a welwyd yn y frwydr benodol honno. Bu farw dros filiwn o bobl i gyd, a chredaf fod angen i ni wybod beth y mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud—pa un a oes unrhyw weithgareddau sy'n cael eu noddi— a sut yr ydym ni fel Aelodau’r Cynulliad yn ein hetholaethau yn gallu helpu i hyrwyddo’r gweithgareddau hynny fel teyrnged addas i goffáu’r arwyr hyn a fu farw yn y digwyddiadau erchyll hynny. Diolch.