Part of the debate – Senedd Cymru am 2:54 pm ar 21 Mehefin 2016.
Diolch yn fawr iawn, Julie Morgan, yr Aelod dros Ogledd Caerdydd. O ran eich pwynt cyntaf, roedd hi'n bwysig iawn eich bod wedi cael y cyfle i dynnu sylw at waith cofrestrfa mêr esgyrn Cymru. Mae'r digwyddiadau hyn yn y Senedd yn codi ymwybyddiaeth ac yr oedd, fel yr ydych yn dweud, yn dathlu casglu’r milfed rhoddwr cyfatebol. Hoffwn longyfarch Gwasanaeth Gwaed Cymru ochr yn ochr â Julie. Ond hefyd dylid llongyfarch y gwirfoddolwyr—y bobl sy'n gwirfoddoli i roi mêr esgyrn. Mae'n ymwneud â sut y gallwn ni recriwtio rhagor o bobl. Credaf fod Ysgrifennydd y Cabinet yn gwybod bod hyn yn fater lle y mae angen recriwtio ar lefel fwy lleol yn ogystal ag ar lefel genedlaethol. Mae angen i ni estyn allan at gymunedau, ac rwy'n siŵr mai dyna oedd y neges a ddaeth i’r amlwg yn eich digwyddiad. Felly, gall Aelodau'r Cynulliad hefyd gyfrannu wrth helpu i ledaenu’r neges ym mhobman.
Byddem yn gobeithio ac yn disgwyl i Julie Morgan o Ogledd Caerdydd achub ar y cyfle i ganmol ei hetholwr, Gareth Bale, ac i gydnabod ei gyflawniadau enfawr ef ac, wrth gwrs, y tîm cyfan. Ef yw’r sgoriwr uchaf ac yn sicr ef yw seren y gêm a'r twrnamaint. Mae cael ei weld eto yn rhoi cyffro i chi ac i ni i gyd, yn ogystal â'i deulu. Mae'n gyn-ddisgybl yn Ysgol Uwchradd yr Eglwys Newydd, a dyna beth yw esiampl dda. Felly, rwy'n siŵr y byddwn yn dathlu ac yn ei longyfarch yn bersonol maes o law.