– Senedd Cymru am 2:55 pm ar 21 Mehefin 2016.
Yr eitem nesaf ar yr agenda yw’r cynnig i dderbyn argymhelliad y Prif Weinidog ar gyfer Ei Mawrhydi i benodi Cwnsler Cyffredinol. Rwy’n galw ar y Prif Weinidog i wneud y cynnig.
Diolch, Lywydd. A gaf i felly symud y cynnig yn ffurfiol?
Nid wyf yn cynnig sylw ar allu’r Aelod Llafur i gyflawni swydd y Cwnsler Cyffredinol. Rwy'n siŵr ei fod, mewn nifer o ffyrdd, yn ymgeisydd cymwys iawn. Fy unig bwynt yw hyn: mae’r Aelod eisoes yn ystod y pumed Cynulliad wedi tynnu sylw ddwywaith at ei awydd mawr i gynnal ymchwiliad cyhoeddus o ran y digwyddiadau yn Orgreave yn ystod streic y glowyr 32 mlynedd yn ôl. [Torri ar draws.] Digon teg. Os bydd yr Aelod yn dod yn Gwnsler Cyffredinol, a fydd yn parhau i bwyso am yr ymchwiliad hwn, ac, os bydd yn gwneud hynny, a fydd hyn yn arwain at unrhyw wrthdaro buddiannau posibl?
Nid oes gennyf unrhyw siaradwyr eraill. A yw’r Prif Weinidog eisiau ateb y ddadl?
Yr ateb yw 'na', oherwydd, wrth gwrs, fel Cwnsler Cyffredinol, ni fyddai’r Aelod yn cymryd rhan mewn unrhyw broses gyfreithiol yn ymwneud ag Orgreave. Mae hynny'n fater i Lywodraeth y DU ac nid i Lywodraeth Cymru.
Y cwestiwn, felly, yw: a ddylid derbyn y cynnig? A oes unrhyw wrthwynebiad? Os na, fe dderbynnir y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36. [Cymeradwyaeth.]