Part of the debate – Senedd Cymru am 3:00 pm ar 21 Mehefin 2016.
A allaf i ddiolch i Ysgrifennydd y Cabinet dros yr economi ac isadeiledd am ei ddatganiad ac, yn wir, croesawu ei ddatganiad yn llawn? Nawr, y prynhawn yma—nid dyma’r adeg i fod yn mynd a thraethu a dadlau ynglŷn â pha ffordd sydd orau, achos, wrth gwrs, mae’r Gweinidog wedi amlinellu ffordd ymlaen ar y mater dyrys yma sydd wedi bod yn rhygnu ymlaen ers blynyddoedd lawer. Achos y gwir ydy: mae angen ateb. Nid wyf yn credu bod gwneud dim yn opsiwn i’r bobl leol na holl fusnesau de Cymru hefyd.
Felly, rwy’n croesawu’r bwriad i edrych ar yr ystod eang o ddewisiadau sydd gerbron mewn adolygiad hollol annibynnol. Ac mi fuaswn i’n taflu i mewn i’r pair hefyd y syniad: beth am gael gwared â gorfod talu am groesi pont Hafren pan rydym ni wrthi, gan ein bod ni’n mynd i edrych ar bob opsiwn? Buaswn i’n ychwanegu hwnnw fel opsiwn sydd hefyd yn achosi prysurdeb a thagfeydd yn lleol.
Fel rwyf wedi dweud eisoes, nid wyf i’n credu bod gwneud dim yn opsiwn, ac rwy’n canmol y ffordd ymlaen yn fan hyn, yn enwedig drwy fod yn cyfranogi o brofiad nifer fawr o bobl—rheini sydd o blaid pa bynnag ffordd a’r rheini hefyd sydd yn eu herbyn nhw. Bydd y Gweinidog yn ymwybodol, wrth gwrs, o amheuon nifer fawr o bobl ynglŷn â sgil-effeithiau amgylcheddol, ac ati, y gwahanol ddewisiadau.
Nawr, wrth gwrs, mae ei Lywodraeth e o blaid un ffordd arbennig, y ffordd ddu. Rydym ni ar y meinciau fan hyn o blaid ffordd arall, y ffordd las. Wedyn, o gael yr ymchwiliad hollol annibynnol yma sydd yn mynd i edrych ar yr holl opsiynau, fel rydych chi wedi ei ddweud, pa sicrwydd allwch chi ei roi inni fod yr un math o bwysau, manylder a thryloywder yn mynd i gael ei roi pan rydych chi’n cysidro’r ffordd las, er enghraifft, ochr yn ochr â’r ffordd ddu? A ŷch chi’n mynd i drin yr holl ddewisiadau yr un fath, gyda’r un pwysau, i osgoi unrhyw feirniadaeth, felly, eich bod chi’n ffafrio, a dal i ffafrio, a thrio dylanwadu ar, yr ymchwiliad annibynnol yma i ddod allan o blaid y ffordd ddu? Chwilio rydw i am sicrwydd, pan rydych chi’n dweud bod yr holl ystod eang o ddewisiadau yn mynd i gael ei archwilio mewn manylder, fod hynny’n mynd i ddigwydd mewn realiti. Diolch yn fawr.