Part of the debate – Senedd Cymru am 3:14 pm ar 21 Mehefin 2016.
A gaf i ddiolch i Russell George am ei gwestiynau a dweud, o ran, yn gyntaf oll, yr ymgynghoriad sydd wedi ei gynnal, y byddwn yn hapus iawn i gyhoeddi data ynglŷn â'r ymatebion? Yn gryno, bydd yr ymchwiliad yn edrych ar yr ymatebion i'r ymgynghoriad a'r arddangosfeydd a gynhaliwyd rhwng mis Medi 2015 a mis Mawrth 2016. Yn gryno, arweiniodd yr ymgynghoriad at gyfanswm o 192 o gyflwyniadau gan gefnogwyr, o'i gymharu â 267 o wrthwynebiadau pwrpasol. Ond os edrychwch chi ar y niferoedd sy'n deillio oddi mewn i Gymru, a ddaeth gan drigolion Cymru, roedd nifer y cefnogwyr yn 143 o'i gymharu â 118 o wrthwynebiadau. Gwnaf gyhoeddi’r data hyn. Daeth y gwrthwynebiadau mwyaf, o ran niferoedd, gan ymgyrchoedd a drefnwyd gan gynnwys y Gymdeithas Frenhinol er Gwarchod Adar a Choed Cadw. Dyna pam yr wyf yn awyddus i gyfarfod â’r grwpiau bywyd gwyllt hynny cyn gynted ag y bo modd i drafod ystod o brosiectau lliniaru yr hoffai grwpiau bywyd gwyllt eu gweld yn cael eu cyflwyno fel rhan o brosiect ffordd liniaru'r M4.
O ran yr amserlen yr ydym yn edrych arni, tri i bum mis yw ein hamcangyfrif ar gyfer y cyfnod gwirioneddol o allu cynnal yr ymchwiliad. Pe byddai’r arolygydd yn dymuno cymryd llai na phum mis, a bod pedwar mis neu dri mis yn ddigonol, penderfyniad yr arolygydd annibynnol fyddai hynny. Yn yr un modd, ni fyddai gennyf i unrhyw wrthwynebiad i'r arolygydd gynnal cyfarfodydd y tu allan i ganol Casnewydd, pe byddai’r arolygydd yn dymuno gwneud hynny. Mae hyn yn nwylo'r arolygydd annibynnol i raddau helaeth a hoffwn i’r arolygydd hwnnw gael pob cyfle i gysylltu ac i drafod y prosiect pwysig iawn hwn â’r bobl y bydd yn effeithio arnynt.
O ran y gogledd, o ran y canolbarth ac o ran y gorllewin, mae'n gwbl hanfodol bod yr M4 a'r metro yn y de-ddwyrain, ac yn wir y metro ar draws y de, yn ffurfio rhan o gynllun seilwaith cenedlaethol ac, am y rheswm hwnnw, rwy'n awyddus iawn i fwrw ymlaen â gwaith. Rydym eisoes wedi dechrau yn y Drenewydd â'r ffordd osgoi o amgylch y Drenewydd, ond rwy'n awyddus iawn i fwrw ymlaen â gwaith ledled Cymru sydd o fudd i bobl ym mhob cymuned ym mhob rhan o'r wlad, boed hynny’n ddatblygu achos busnes o blaid trydedd croesfan dros y Fenai, ffordd osgoi Caernarfon, neu uwchraddio’r A55 a'r A494 yn sylweddol a fydd yn dod i gyfanswm o dros £200 miliwn, ac wrth gwrs yr A40 hefyd. Hoffwn sicrhau nad yw'r M4 a'r metro yn cael eu gweld fel rhywbeth ar wahân ond fel rhan o gynllun trafnidiaeth cwbl genedlaethol ac integredig. Yn wir, cynllun a fydd yn cynnwys teithio a theithio integredig yn union dros y ffin. Bydd hynny'n arbennig o arwyddocaol i gynigion metro’r gogledd-ddwyrain.
Os caf sôn yn gryno am yr ymchwiliad ei hun—gofynnodd yr Aelod am yr amserlen. Cyhoeddwyd gorchmynion statudol drafft a datganiad amgylcheddol ym mis Mawrth eleni. Fy mwriad yw cychwyn yr ymchwiliad lleol cyhoeddus yn ystod hydref eleni a byddwn yn gobeithio, erbyn haf y flwyddyn nesaf, cyn belled â’n bod wedi cael adroddiad yr arolygydd, y gellir gwneud penderfyniad ynglŷn â pha un a ddylid gwneud y gorchmynion a bwrw ymlaen â'r gwaith adeiladu. Byddai gwanwyn 2018 yn nodi dechrau'r gwaith ar y draffordd a byddwn yn gobeithio, erbyn hydref 2021, y byddai'r gwaith wedi’i gwblhau a'r ffordd liniaru yn cael ei hagor.
Byddwn yn symud ymlaen at yr ymchwiliad lleol cyhoeddus â barn gadarn mai’r llwybr du yw'r dewis a ffefrir. Fodd bynnag, mae’r ymchwiliad lleol cyhoeddus yn debyg iawn i lys. Bydd arolygydd annibynnol yn clywed tystiolaeth gennym ni, Llywodraeth Cymru a'n harbenigwyr technegol, yn ogystal â gan wrthwynebwyr a gan gefnogwyr. Bydd yr arolygydd yn edrych ar yr holl opsiynau eraill a awgrymwyd gan wrthwynebwyr, gan gynnwys y llwybr glas, fel yr wyf eisoes wedi’i ddweud, ac yna bydd yr arolygydd yn gwneud argymhelliad i Weinidogion ynglŷn â pha un a ddylid symud ymlaen i adeiladu.
Dylwn nodi hefyd mai’r Arolygiaeth Gynllunio sy’n penodi’r arolygydd annibynnol; nid yw'n benodiad gan Lywodraeth Cymru. Ac, yn yr ymchwiliad, byddai'r arolygydd annibynnol yn ystyried ystod eang o gwestiynau, gan gynnwys a oes angen y cynllun; y tir y cynigir ei brynu’n orfodol; y cynigion ar gyfer newidiadau i ffyrdd ymyl; ac ailddosbarthu'r M4 bresennol. Bydd yr arolygydd yn ystyried arolygon amgylcheddol a gynhaliwyd; effeithiau amgylcheddol posibl ar draws amrywiaeth eang o faterion, gan gynnwys rhai ecolegol ac archeolegol a materion yn ymwneud â sŵn ac effaith weledol; yn ogystal â'r mesurau lliniaru sy'n cael eu cynnig. Bydd yr arolygydd hefyd yn ystyried yr effaith ar randdeiliaid yr effeithir arnynt, fel Associated British Ports, Tata ac, wrth gwrs, trigolion. A bydd yr arolygydd yn ystyried sut i ddefnyddio polisïau Llywodraeth Cymru mewn penderfyniadau—a gwn fod Aelodau wedi ei godi yn y gorffennol—fel defnyddio Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015. Lywydd, bydd yr arolygydd hefyd yn craffu ar y galw traffig sy’n gysylltiedig â’r cynllun a’r gwaith modelu traffig a gynhaliwyd arno. Yn olaf, bydd yr arolygydd yn ystyried dewisiadau eraill a gynigiwyd gan wrthwynebwyr, hyd yn oed os ydynt wedi cael eu hystyried a'u gwrthod eisoes. Er enghraifft, bydd yr arolygydd yn ystyried llwybrau eraill, lledu ffyrdd presennol, gwario mwy ar drafnidiaeth gyhoeddus ac, wrth gwrs, gwneud dim byd.