Part of the debate – Senedd Cymru am 3:33 pm ar 21 Mehefin 2016.
A gaf i ddiolch i'r Aelod am ei gwestiwn, ac, unwaith eto, am ei ddiddordeb brwd yn y pwnc pwysig iawn hwn? Ac, oes, mae gennyf feddwl agored o ran sut yr ydym yn modelu unrhyw fath o hafaliad a fformiwla economaidd, a byddwn yn fwy na pharod i edrych ar sut y gallwn ddeall unrhyw fodelau a gyflwynir ar gyfer prosiectau seilwaith, a chraffu arnynt, yn well. Rwy'n fwy na pharod i wneud hynny.