Part of the debate – Senedd Cymru am 3:45 pm ar 21 Mehefin 2016.
Diolch yn fawr iawn, a diolch am y diweddariad yna. Wrth gwrs, rydych chi’n cydnabod fan hyn bod y grant canolog wedi cael ei gynyddu, ond, wrth gwrs, mae llawer o gyllid ar gyfer y maes yma, ar gyfer cymorth i ferched, ar gyfer y llochesu, yn dod drwy’r awdurdodau lleol, ac mae’r awdurdodau lleol wedi gwynebu toriadau ariannol flwyddyn ar ôl blwyddyn. Mae rhai o’r gwasanaethau yma yn dioddef o doriadau sy’n amrywio o rhwng 3 y cant ac 20 y cant, ac mae yna ambell i enghraifft o doriadau o hyd at 70 y cant yn y gwasanaeth cymorth i ferched mewn rhai rhannau o Gymru, yn anffodus. Mae hyn yn arwain at sefyllfa enbydus ar adegau, ac, yn ystod 2015, mi oedd yn rhaid i Gymorth i Ferched wrthod gwasanaeth i 284 o ferched oherwydd nad oedd yna lle yn y llochesu a dim arian ar gyfer cynnal y gwasanaeth. Sut, felly, ydych chi’n bwriadu gweithredu’r fframwaith yn y maes yma yn wyneb y ffasiwn ddiffyg adnoddau a chyllid, a beth ydy strategaeth ariannol y Llywodraeth?
A gaf i jest droi at ddau fater arall hefyd? Mae Plaid Cymru wedi bod yn pwysleisio addysg berthynas iach a’r angen i fod yn cynnal hynny ac yn lledaenu hynny fel agwedd gyfan tuag at y broblem ddwys yma. Sut ydych chi’n mynd i fod, rŵan, yn monitro gweithredu’r canllawiau sydd wedi cael eu cyhoeddi i wneud yn siŵr bod y maen yn mynd i’r wal yn y maes yna? Rwy’n sylwi nad ydych chi ddim yn sôn am un agwedd bwysig iawn yn y maes yma, sef y mater o wahardd taro plant, a phenderfyniad y Llywodraeth yn y Cynulliad diwethaf oedd peidio â chynnwys dileu’r amddiffyniad cosb resymol, oedd yn drueni mawr oherwydd fe fyddai wedi rhoi gwarchodaeth gyfartal i blant o fewn y gyfraith. Mae yna arwydd, bellach, bod eich Llywodraeth chi yn barod i ailystyried y mater yma, diolch i bwysau gan fy mhlaid i, felly buaswn i’n hoffi gwybod beth ydy’r camau a beth ydy’r amserlen ar gyfer gwneud hyn, achos mae o’n fater sydd yn hollbwysig ar gyfer ein plant ni yn y dyfodol.