Part of the debate – Senedd Cymru am 4:42 pm ar 21 Mehefin 2016.
Diolch. Rwyf yn ddiolchgar iawn i lefarydd y Ceidwadwyr am ei sylwadau caredig. Edrychaf ymlaen at ein sgyrsiau ynglŷn â hyn dros y cyfnod sydd i ddod ac, ar faterion eraill hefyd rwyf yn siŵr. Rwyf am ddechrau, os caf, drwy ateb eich cwestiwn olaf yn gyntaf. Bydd yr Aelod yn gwybod bod memorandwm cyd-ddealltwriaeth ar waith rhwng Llywodraeth Cymru a'r BBC a’r Adran dros Ddiwylliant, y Cyfryngau a Chwaraeon a fydd yn disgrifio llawer o'r prosesau a’r llinellau atebolrwydd y mae wedi'u hamlinellu. Ond byddai'n well gennyf ganolbwyntio nid yn gymaint ar y llinellau caled, y mae ef wedi eu disgrifio, ond ar ddadl a thrafodaeth sy’n llawer cyfoethocach nag yr ydym efallai wedi eu cael yn y gorffennol am natur darlledu a’r cyfryngau a sut y mae hynny’n effeithio ar fywydau pobl yma yng Nghymru ac mewn mannau eraill. Mae yn llygad ei le wrth ddisgrifio darlledu fel pwnc nad yw wedi ei ddatganoli, ond mae llawer o'r materion y mae darlledu’n effeithio arnynt, wrth gwrs, wedi'u datganoli. Rwyf bob amser wedi ystyried darlledu yn fwy o gyfrifoldeb i’w rannu, lle y dylai, ac y byddai, llawer o'r rheoleiddio economaidd ddigwydd, a dyna fyddai orau yn amlwg, naill ai yn y Deyrnas Unedig neu, mewn rhai achosion, ar lefel Ewropeaidd. Ond, mae llawer o'r materion diwylliannol y mae darlledu’n effeithio arnynt, a’r materion democrataidd y mae darlledu’n effeithio arnynt, yma yn y lle hwn yn gwbl briodol. Felly, mae bob amser wedi bod yn faes lle y mae buddiant i’w rannu. Mae’r Aelod hefyd yn ymwybodol bod i ddarlledu amlygrwydd gwleidyddol llawer mwy yng Nghymru nag mewn llawer o rannau eraill o’r Deyrnas Unedig am resymau hanesyddol a diwylliannol clir ac amlwg iawn.
Felly, bydd pobl yng Nghymru’n disgwyl i’r lle hwn gymryd rhan lawn a gweithredol yn y ddadl dros ddarlledu. Rydym wedi rhoi ar waith y strwythurau a fydd yn ein galluogi i wneud hynny. Rwyf yn disgwyl y bydd y BBC, darlledwyr gwasanaeth cyhoeddus eraill ac Ofcom yn chwarae rhan lawn yn y llinellau atebolrwydd hynny, a fydd yn llinellau caled, sydd wedi'u nodi mewn polisi ac weithiau yn y gyfraith, ond ar yr un pryd, byddant am gymryd rhan mewn trafodaeth lawer ehangach am natur y cyfryngau yn ein cymdeithas wrth iddynt esblygu.
Mae un o'r dadleuon hynny’n ymwneud â’r gwerthoedd newyddion y cyfeiriodd yr Aelod atynt yn ei sylwadau agoriadol. Rwyf wedi ei chael yn anodd derbyn weithiau fod y gwerthoedd newyddion a ddylai ysgogi ac arwain penderfyniadau yn y BBC bob amser yn cynrychioli’r hyn sydd o bwys i bobl ledled y Deyrnas Unedig. Mae’r penderfyniadau a wneir yn y lle hwn yn benderfyniadau sy'n effeithio ar lawer rhan o fywydau pobl yng Nghymru ac eto anaml iawn y mae trafodion y lle hwn yn cael sylw gan raglenni rhwydwaith a newyddion rhwydwaith y DU gan y BBC. Credaf fod hynny'n fethiant sylweddol a chredaf fod hynny’n fethiant parhaus, ac rwyf yn falch bod y BBC ar adegau wedi cydnabod y methiant hwnnw. Yr hyn sydd ei angen yw strwythurau i sicrhau nad yw hyn yn digwydd, ond hefyd y newid diwylliannol a fydd yn galluogi'r BBC i gyflawni ei rhwymedigaethau a'i chenhadaeth yn well yn y dyfodol. Rwyf yn gobeithio mai dyna y byddwn yn ei gyflawni trwy’r ddadl yr ydym yn ei chael trwy’r broses hon i adnewyddu’r siarter.
Soniodd llefarydd y Ceidwadwyr, Lywydd, am y bartneriaeth rhwng y BBC ac S4C. Gwn fod hyn yn cael ei ystyried yn rhy aml yn fygythiad i S4C. Nid felly yr wyf i’n gweld pethau. Credaf y gall partneriaeth rhwng dau o'n darlledwyr gwasanaeth cyhoeddus allweddol ddod â manteision mawr i bobl yng Nghymru, a gallai sicrhau ein bod yn cynyddu’r buddsoddiad sy’n digwydd yn y gwaith o greu cynnwys Cymraeg, a galluogi’r cynnwys Cymraeg hwnnw i gyrraedd gwylwyr a defnyddwyr yng Nghymru ac mewn mannau eraill. Rwyf am weld S4C yn cadw ei hannibyniaeth—ei hannibyniaeth weithredol, ei hannibyniaeth olygyddol. Fodd bynnag, nid yw hynny'n golygu bod yn rhaid bod gagendor mawr iawn rhwng buddiannau S4C a buddiannau’r BBC, a byddem yn disgwyl ac yn rhagweld y byddai’r ddau ddarlledwr yn gweithio'n agos gyda'i gilydd. Mae trefniant y bartneriaeth bresennol sydd ar waith yn rhywbeth sy’n llwyddo, yn fy marn i, ac yn ein galluogi i ddarparu cynnwys o ansawdd uchel, ond i wneud hynny ar gost sy’n rhesymol i bobl sy’n talu ffi'r drwydded ac a fydd yn cynnal S4C i mewn i'r dyfodol. Yr hyn yr wyf am ei weld yw sicrhau bod gennym strwythurau ar waith ar hyn o bryd sy'n sicrhau bod S4C yn gallu cynhyrchu rhaglenni yn unol â’r gwerthoedd cynhyrchu uchaf, ac nid wyf wedi fy argyhoeddi bod Llywodraeth bresennol y DU wedi ymrwymo i hynny. Rwyf am weld Llywodraeth bresennol y DU yn symud oddi wrth y sefyllfa yr oedd ynddi ychydig flynyddoedd yn ôl, lle'r oedd, a dweud y gwir, yn bwlio S4C. Mae angen inni sicrhau bod y BBC, wrth wneud penderfyniadau ynghylch ariannu S4C, yn gwneud penderfyniadau sy'n galluogi S4C i barhau i gynhyrchu rhaglenni Cymraeg o safon uchel. Rwyf yn gobeithio y bydd yr ymrwymiadau ariannol yr wyf wedi eu disgrifio wrth ateb cwestiynau eraill hefyd yn darparu’r math o sicrwydd yr ydych yn ei geisio.