Part of the debate – Senedd Cymru am 4:47 pm ar 21 Mehefin 2016.
Diolch ichi, Lywydd. Yn gyntaf, hoffwn innau hefyd roi fy nghefnogaeth i'r datganiad ac i’r Gweinidog am ei waith cryf yn hyn o beth. Edrychaf ymlaen at y cyfle i gael mwy o oruchwyliaeth a mandad i’r Senedd o ran ein gwaith craffu ehangach ar gyfryngau Cymru, ac rwyf yn croesawu’r cyfle hwnnw’n fawr iawn. Rwyf hefyd yn croesawu'r ddadl a addawyd yn y Cyfarfod Llawn ar y siarter ddrafft a'r drwydded gwasanaeth newydd i Gymru sydd wedi ei haddo, ac, fel cyn aelod o gyngor darlledu Cymru y BBC yn ystod yr adolygiad diwethaf o’r siarter, a Hutton, roeddwn yn falch o fod yn rhan o’r broses o gomisiynu 'Doctor Who', ymysg llawer o raglenni eraill, ac mae'r rhaglenni etifeddiaeth a ddilynodd wedi cadarnhau yn sicr iawn yr agenda o ran drama o safon uchel yng Nghymru i farchnad fyd-eang. Fodd bynnag, mae drama o safon uchel o'r fath, bron fel dur, yn rhywbeth y byddwn yn strategol yn parhau i’w ledaenu, rwyf yn sicr, yng Nghymru, gyda rhaglenni dwyieithog ag apêl gyffredinol fel 'Y Gwyll/Hinterland'. Felly, a yw’r Gweinidog yn cytuno â mi fod yn rhaid inni barhau i weithio i gryfhau'r siarter ddrafft mewn nifer o feysydd—a byddaf yn gryno—i ddatblygu ymhellach apêl gyffredinol rhaglenni a’u dosbarthiad wedi hynny yn y rhanbarthau ac yn fyd-eang, bod angen comisiynydd-olygydd drama ar Gymru sydd â grym a chyllid i gyd-fynd â hynny, y bydd yn parhau i lobïo ar i’r BBC beidio â lleihau ei buddsoddiad mewn gwasanaethau lleol, a hefyd, fel y dywedodd sawl un yn y Siambr heddiw, fod yn rhaid gwella’r ffordd y caiff Cymru ei phortreadu, fel y mae llawer wedi dweud, ein bod yn bodoli mewn gwirionedd o fewn y DU, ein bod yn genedl o dalentau, celfyddydau, cerddoriaeth, llenyddiaeth a chomedi rhagorol, cymunedau anhygoel, tirweddau gwych, yn ogystal â phêl-droed anhygoel, ac nad yw Cymru yn llawn twyllwyr budd-daliadau a phobl sy’n byw ar eraill, fel y caiff ei phortreadu yn genedlaethol, a hefyd, y gellir gwella’n fawr y sylw cyffredinol i gynnwys gwleidyddol, digwyddiadau ac ymgyrchoedd—ac mae wedi sôn am refferendwm yr UE?
Rwyf yn sefyll yma heddiw, fel y mae llawer un arall yn ei wneud, yn gwisgo rhosyn gwyn er cof am fam i ddau o blant a gwraig, ymgyrchydd dros gydlyniant cymdeithasol, ac mae hwyliau’r wlad yn cael eu gosod mewn tirlun gwleidyddol garw, ac mae’n troi fwyfwy’n un lle y mae rhaniadau, diffyg cydlyniant, a throseddau casineb hiliol. Felly, mae gan y cyfryngau swyddogaeth hollbwysig yma, ac nid wyf yn deall sut y mae copi union o bropaganda Natsïaidd yn dderbyniol i’w ddarlledu’n gyhoeddus, yn enwedig pan fo’r siarter yn cael ei hadolygu, ac yn cael ei ddangos o gwmpas y lle. Pryd y trodd mandad cydbwysedd gwleidyddol gwasanaeth cyhoeddus y BBC ac Ofcom yn un mor or-ofalus? Ai cyfreithwyr gor-bwerus sydd i gyfrif, gofynnaf i mi fy hun? Felly, rwyf yn siŵr bod y Gweinidog yn benderfynol, ar ôl Leveson, y bydd mandad unrhyw siarter gwasanaeth cyhoeddus yn y dyfodol yn adennill unrhyw rym y mae canfyddiad iddo gael ei golli ac y bydd ein newyddiadurwyr yn parhau i ymchwilio a chwilio am y gwir. Oherwydd mae gan y cyfryngau swyddogaeth allweddol ac rwyf i, yn bendant, yn dymuno parhau i weld darllediadau gwleidyddol o ansawdd uchel yng Nghymru yn cryfhau a datblygu ac yn dod yn hygyrch i holl bobl Cymru.