Part of the debate – Senedd Cymru am 4:55 pm ar 21 Mehefin 2016.
Diolch yn fawr iawn. Dim ond ychydig o bwyntiau cyflym. Roeddwn yn falch o lofnodi llythyr Lee Waters, ac rwyf yn gobeithio y bydd hynny'n arwain at ganlyniad. Mae 'Casualty' yn cael ei ffilmio ar ystâd Gabalfa yr wythnos nesaf, felly mae pawb yn hynod falch am hynny, ond rwyf am ategu’r pwyntiau y mae pobl wedi eu gwneud, sef y gellid ei ffilmio yn unrhyw le o ran portreadu unrhyw beth, mewn gwirionedd, am fywyd Cymru a sut y mae Cymru’n cael ei gweld. Wrth gwrs, mae hwn yn bwynt sy’n cael ei wneud yn gryf yn adroddiad y Pwyllgor Materion Cymreig sydd newydd ei gyhoeddi. Felly, nid wyf yn gwybod a oes ganddo sylw ynghylch a oes rhywbeth y gallwn ni ei wneud am hynny. Dyna oedd y pwynt cyntaf.
Yn ail, rwyf am godi pwynt ynghylch sut y mae pobl mewn gwirionedd yn cael eu newyddion yng Nghymru. Credaf fod y BBC yn tybio, onid yw, ei bod yn cyrraedd tua 60 y cant o’r bobl yng Nghymru gyda Radio Cymru, Radio Wales a’r holl raglenni newyddion eraill. Beth am y 40 y cant arall, a'r hyn y gallwn ei wneud i'w cyrraedd fel eu bod hwythau’n cael rhywfaint o newyddion materion cyfoes o Gymru, a fydd yn helpu, a dweud y gwir, i wneud y cyhoedd yng Nghymru’n fwy gwybodus ar gyfer yr etholiadau ac ar gyfer y refferendwm a bod gennym faterion sy’n ymwneud yn benodol â Chymru?