Part of the debate – Senedd Cymru am 4:59 pm ar 21 Mehefin 2016.
Diolch i chi, Lywydd. Mae arolwg iechyd Cymru yn rhoi trosolwg i ni o gyflwr iechyd y genedl. Mae'n cynnwys statws iechyd, y defnydd o wasanaethau iechyd ac ymddygiad sy'n gysylltiedig ag iechyd. Rwy’n gwneud datganiad heddiw ar y prif negeseuon, ond ceir mwy o ddysgu a dadansoddiad o'r arolwg yn ddiweddarach yn y flwyddyn.
Mae arolwg iechyd Cymru 2015, a gyhoeddwyd yn ddiweddar, yn dangos i ni fod 19 y cant o oedolion yn ysmygu ar hyn o bryd. Mae hynny i lawr o 26 y cant yn 2003 i 2004. Mae’r lleihad sylweddol hwn yn golygu ein bod wedi rhagori ar nod Llywodraeth Cymru i leihau cyfraddau ysmygu i 20 y cant erbyn 2016. Rydym yn awr ar y trywydd iawn i gyrraedd y targed uchelgeisiol o leihau lefelau ysmygu i 16 y cant erbyn 2020-ac nid oeddem wedi meddwl y byddem yn cyrraedd yno bob amser. Mae'r cynnydd hwn yn dyst i ymdrechion ystod o weithwyr proffesiynol sydd wedi gweithio i annog pobl ifanc yn enwedig rhag dechrau ysmygu, a’r cyngor a'r gefnogaeth a roddir i ysmygwyr sydd am roi'r gorau iddi. Rwy'n falch o gydnabod bod pobl Cymru wedi croesawu’r newid yn y diwylliant fel mai amgylcheddau di-fwg yw'r norm bellach.
Mae'n bwysig ein bod yn cynnal ac yn gwella ein hymdrechion. Rydym yn gwybod bod ysmygu'n lladd ac yn achosi niwed. Mae angen inni weithredu fel nad yw pobl ifanc yn dechrau ysmygu a bod ysmygwyr sydd am roi'r gorau iddi yn cael y cymorth gorau sydd ar gael. Gyda hyn mewn golwg, rydym ar hyn o bryd yn adolygu'r cynllun gweithredu ar reoli tybaco i sicrhau ein bod yn parhau i wneud popeth o fewn eich gallu i leihau lefelau ysmygu ymhellach yng Nghymru.
Mae gennym, am y tro cyntaf, wybodaeth benodol am y nifer o ddefnyddwyr e-sigaréts yng Nghymru. Pymtheg y cant o oedolion sydd wedi rhoi cynnig ar ddefnyddio e-sigaréts; gyda 6 y cant yn ddefnyddwyr presennol, ac mae 59 y cant o ddefnyddwyr presennol hefyd yn ysmygwyr ar hyn o bryd. Mae'r ffigurau hyn yn debyg i'r canfyddiadau o arolygon mewn mannau eraill yn y DU, a byddwn yn parhau i adolygu’r dystiolaeth ar ddefnyddio e-sigaréts.
Er nad yw lefelau yfed alcohol wedi gostwng eleni, maent yn aros ar y lefelau isaf ers i’r cwestiynau hyn gael eu cyflwyno yn 2008. At ei gilydd, mae yfed alcohol ymhlith oedolion iau wedi gostwng, ond bu cynnydd bychan o ran oedolion hŷn. Mae mynd i'r afael â chamddefnyddio alcohol yn parhau i fod yn flaenoriaeth i Lywodraeth Cymru a bydd ein camau gweithredu yn cael eu nodi yn y cynllun cyflawni newydd ar gamddefnyddio sylweddau. Bydd y camau gweithredu yn cynnwys ffocws cryf ar fynd i'r afael â'r niwed sy'n gysylltiedig ag ymddygiadau yfed peryglus, yn enwedig ymhlith oedolion hŷn. Rydym yn disgwyl cyhoeddi’r cynllun hwnnw cyn toriad yr haf.
Mae ein camau gweithredu i leihau'r niwed a achosir gan alcohol yn cael eu hategu gan ganllawiau prif swyddogion meddygol newydd y DU, a gyhoeddwyd ym mis Ionawr eleni. Mae'r rhain yn cynnwys un terfyn risg isel o 14 uned yr wythnos ar gyfer dynion a menywod, ac yn ei gwneud yn glir bod yfed unrhyw lefel o alcohol yn cynyddu'r perygl o ystod o ganserau a chlefydau eraill. Mae'r canllawiau newydd hefyd yn atgyfnerthu'r neges nad oes lefel ddiogel o alcohol i'w yfed yn ystod beichiogrwydd.
Byddwn yn parhau i ddadlau o blaid yr achos dros gyflwyno isafbris uned ar gyfer alcohol yng Nghymru. Byddai camau o'r fath yn targedu’r yfwyr trymaf yn benodol i atal niwed a achosir gan yfed gormod o alcohol, ac ar yr un pryd yn lleihau'r effaith ar yfwyr cymedrol.
Mae'r arolwg hefyd yn rhoi syniad o’r gyfran o'r boblogaeth sydd naill ai'n rhy drwm neu'n ordew. Tynnodd y Gweinidog Gwasanaethau Cymdeithasol ac Iechyd Cyhoeddus sylw yr wythnos diwethaf at y cynnydd araf ond cyson yn nifer yr oedolion a gaiff eu hystyried yn rhy drwm neu'n ordew ers cychwyn yr arolwg yn 2003-04. Yn ystod y cyfnod hwn o 11 mlynedd, mae'r gyfran o oedolion a gaiff eu hystyried yn rhy drwm neu'n ordew wedi codi o 54 y cant i 59 y cant, ac mae gordewdra yn unig wedi cynyddu o 18 y cant i 24 y cant. Mae lefelau hefyd yn cynyddu yn sgil amddifadedd ac maent ar eu huchaf ymhlith pobl ganol oed.
Yn syml, rydym yn gwybod mai’r rheswm pam mae pobl dros bwysau ac yn ordew yw’r anghydbwysedd rhwng calorïau a fwyteir a’r calorïau a ddefnyddir. Felly nid yw'n syndod bod y data hefyd yn dangos nad yw lefelau gweithgarwch corfforol yn gwella, a dim ond un rhan o dair o oedolion sy’n dweud eu bod yn bwyta eu pum dogn o ffrwythau a llysiau bob dydd. Mae hwn yn ddangosydd a ddefnyddir yn eang o ran deiet iach a chytbwys.
Mae gwella lles pobl yng Nghymru, a'u galluogi i fwyta'n well a symud mwy yn ymrwymiad maniffesto allweddol i ni, ac mae fy mhortffolio yn dwyn ynghyd nifer o gydrannau i symud yr agenda hon yn ei blaen. Yn ganolog i Ddeddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015 a ddaeth i rym yn ddiweddar, mae’r bwriad i wella iechyd, lles cymdeithasol, economaidd, amgylcheddol a diwylliannol Cymru. I gyflawni dyheadau’r Ddeddf, bydd yn rhaid i ni fod yn gymdeithas lle mae lles corfforol a meddyliol yn cael eu hyrwyddo i’r eithaf ac ymddygiadau sydd o fudd i iechyd yn y dyfodol yn cael eu deall. Mae cynyddu lefelau gweithgarwch corfforol a gwella ein deiet yn elfennau allweddol er mwyn cyflawni'r dyheadau yn y Ddeddf.
Penodwyd cyfarwyddwr gweithgarwch corfforol cenedlaethol ar y cyd gan Lywodraeth Cymru, Chwaraeon Cymru ac Iechyd Cyhoeddus Cymru i ddatblygu argymhellion i wella lefelau gweithgarwch corfforol.
Ynghyd â gwaith ar addysg a newid ymddygiad, rydym hefyd yn ceisio dylanwadu ar yr amgylchedd bwyd. Rydym yn ehangu safonau maeth mewn mwy o leoliadau, ac rydym ar hyn o bryd yn eu datblygu ar gyfer cartrefi gofal a lleoliadau blynyddoedd cynnar. Bydd angen i ni hefyd weithio gyda'r diwydiant bwyd ar lefel Cymru a'r DU. Mae angen i ni sicrhau bod cynhyrchion iachach ar gael ac annog y defnydd o gynllun Llywodraeth y DU i labelu maeth ar flaen pecynnau a hyrwyddo a marchnata cyfrifol. Roedd fy rhagflaenydd, wrth gwrs, yn pwyso am gamau gweithredu cryfach gan Lywodraeth y DU ar siwgr ac yn pwyso am atgyfnerthu’r cyfyngiad ar hysbysebu bwydydd afiach i blant. Roeddem yn falch o glywed y cyhoeddiad gan y DU am ardoll ar siwgr. Fodd bynnag, ni fydd yr ardoll ynddo’i hun yn datrys yr holl heriau sy’n ein hwynebu o ran y defnydd o siwgr.
Er fy mod wrth gwrs wedi fy nghalonogi o weld gostyngiad yn nifer yr oedolion sy'n ysmygu yng Nghymru, ar y cyfan mae'n amlwg bod llawer ohonom yn parhau i fwyta ac yfed gormod ac nid ydym yn gwneud digon o ymarfer corff. Mae cefnogi ac annog pobl i gymryd camau bach i wella eu ffordd o fyw a lleihau'r risg o salwch y gellir ei atal yn parhau i fod yn flaenoriaeth i Lywodraeth Cymru. Fodd bynnag, nid yw hyn yn rhywbeth y gall Llywodraeth Cymru ei wneud ar ei phen ei hun. Mae'n gofyn am weithredu ar y cyd gan amrywiaeth eang o sefydliadau o'r sectorau cyhoeddus, preifat a gwirfoddol ac, wrth gwrs, gan yr unigolion eu hunain.