Part of the debate – Senedd Cymru am 5:08 pm ar 21 Mehefin 2016.
Diolch i'r Aelod am ei gyfres o sylwadau a chwestiynau a’r dechrau cadarnhaol ar y cyfan, ac rwyf innau hefyd yn edrych ymlaen at weld mwy o ddysgu o'r arolwg wrth i ragor o waith dadansoddi gael ei wneud i helpu i lywio ein sefyllfa a lle’r ydym eisiau bod.
Rwy’n dechrau gyda'ch pwynt am e-sigaréts. Dim ond i ailadrodd ein bod yn parhau i adolygu'r dystiolaeth ar ddefnyddio e-sigarét, o ran pa mor gyffredin ydynt a'r ffordd y cânt eu defnyddio, eu heffaith botensial ar bobl ifanc a'r modd y maent yn cael eu marchnata, a'r cyflasynnau, ond yn enwedig yr effaith y mae defnyddio e-sigaréts yn ei chael. Rydym wedi clywed nifer o adroddiadau am effaith y defnydd o e-sigaréts, â'r datganiad eu bod yn 20 y cant yn llai niweidiol na thybaco. Ond wrth gwrs nid yw hynny'n golygu eu bod yn rhydd o niwed. Felly, mae angen deall i beth y cânt eu defnyddio, pam eu bod mor gyffredin, a beth yw’r effaith. Nid ydym yn deall eto beth fydd y defnydd tymor hir ohonynt, ond byddwn yn parhau i edrych ar y dystiolaeth ac yn cael ein harwain gan dystiolaeth ar y mater hwn.
Byddaf yn ymdrin â'ch pwyntiau am fwyd, maeth a siwgr gyda'i gilydd, os caf. Dim ond i addasu ychydig ar y sefyllfa ar hyn o bryd, nid ein bod yn dilorni’r syniad o ardoll ar siwgr; ond yn hytrach y syniad ynghylch sut y gellid ei neilltuo. Nid ydym erioed wedi bod o blaid neilltuo’r defnydd o’r ardoll ar siwgr yn y modd y cafodd ei gyflwyno i ddechrau, ond ni fu unrhyw anghytundeb erioed rhwng ein dwy blaid y gellid ac y dylid ystyried ardoll ar gynnyrch cynnwys siwgr uchel. Yr hyn sydd gennym yn awr yw ardoll ar siwgr mewn diodydd, ond nid yw'n ystyried pob rhan arall o fwyd yn ogystal â hynny. Rhan o'r gweithredu y mae fy rhagflaenydd wedi annog Llywodraeth y DU i ymgymryd ag ef yw gwneud mwy i hyrwyddo dewisiadau heblaw siwgr, yr ydym yn ei hyrwyddo ein hunain yng Nghymru, ond hefyd mae angen edrych eto ar reoleiddio ar gyfer siwgr mewn mwy na diodydd byrlymog yn unig.
Mae hyn yn mynd yn ôl at y pwynt nad yw bwyd, maeth a llawer o'r pwerau rheoleiddio dros fwyd a maeth a safonau maeth wedi'u datganoli. Mae cydbwysedd rhwng yr hyn y gallwn ac na allwn ei wneud, a dyna pam mae angen inni weithio gyda Llywodraeth y DU o hyd. Gallaf gadarnhau bod sgyrsiau parhaus rhwng y Llywodraethau ynghylch cyflwyno'r ardoll a gynigiwyd a sut y gallai neu efallai na fydd yn gweithio, ac y bydd y gwaith yn cael ei ddatblygu rhwng fy adran i a hefyd adran yr Ysgrifennydd Cyllid a Llywodraeth Leol hefyd. Rwy’n gobeithio y gallwn ddod yn ôl a dweud mwy wrth Aelodau'r Cynulliad pan fyddwn wedi cael sgyrsiau mwy adeiladol, a’n bod yn gallu dweud rhywbeth mwy wrthych na'r ffaith ein bod yn siarad ar y pwynt hwn.
Rwyf am ymdrin â'ch pwynt ynghylch gordewdra. Rydym wedi cydnabod ers amser fel gwlad bod gordewdra yn her sylweddol—yr effaith ar ganlyniadau iechyd cyhoeddus ar ystod eang o ddangosyddion afiechyd a chyflwr iechyd a'r effaith a gaiff ar fywydau pobl o ddydd i ddydd, a’r realiti ei bod yn fwy cyffredin mewn cymunedau lle ceir mwy o amddifadedd nag mewn eraill. Felly, nid oes lle i fod yn hunanfodlon. Rhan o'r anhawster yw ei fod yn mynd yn ôl i'r pwynt o sut yr ydym yn defnyddio’r canlyniadau hyn i ddeall beth sydd angen i ni wneud mwy ohono, a sut yr ydym yn gweithio’n fwy llwyddiannus ochr yn ochr â'r cyhoedd i'w hannog i wneud dewisiadau drostynt eu hunain, ond ein bod yn gwneud hynny mewn modd nad yw’n ymddangos ein bod yn pregethu wrth y cyhoedd neu’n eu maldodi ac yn dweud wrthynt beth mae'n rhaid iddynt ei wneud. Mae'n rhaid i ni wneud dewisiadau iachach yn ddewisiadau haws. Os edrychwn ar blant, er enghraifft, mae ychydig dros un o bob pedwar plentyn naill ai'n rhy drwm neu'n ordew. Dyna ein dealltwriaeth o'r rhaglen mesur plant, sy'n golygu bod tua 73 y cant ar bwysau iach. Ond ein problem ni yw nad ydym wedi gweld y math o golli pwysau mewn plant dros bwysau a gordew yr ydym am ei weld, ac i fynd i’r afael â hynny mae angen inni weld beth sy'n digwydd i blant cyn iddynt fynd i’r ysgol, yn ystod yr ysgol a thu allan yr ysgol hefyd. Mae angen newid diwylliant yn gyffredinol ar draws cymdeithas ac o fewn teuluoedd—felly dealltwriaeth o beth yw effaith deiet afiach ar blentyn ac effaith peidio â gwneud digon o ymarfer corff ar blentyn. Felly, mae ystod o wahanol bethau i ni eu gwneud. Ond gan fod y darlun yn gymhleth, nid yw hynny'n golygu na ddylem ddymuno gwneud rhywbeth am y peth ac na fyddwn yn dymuno gwneud rhywbeth am y peth. Fel y dywedais ar ddiwedd fy natganiad cychwynnol: mae hyn yn ymwneud â'r cyhoedd, cyrff gwirfoddol, y sector cyhoeddus a'r sector preifat ac unigolion eu hunain yn deall ac yn atgyfnerthu'r hyn y gallent ac y dylent ei wneud, a sut yr ydym ni yn gwneud y dewisiadau hynny’n haws iddynt, a bod pobl yn gallu gweld ar unwaith yr effeithiau gwell ar iechyd o fod ar bwysau iachach.