9. 8. Datganiad: Y Wybodaeth Ddiweddaraf am ‘Tuag at Dwf Cynaliadwy: Cynllun Gweithredu ar gyfer y Diwydiant Bwyd a Diod 2014-2020’

Part of the debate – Senedd Cymru am 5:39 pm ar 21 Mehefin 2016.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Mr Simon Thomas Mr Simon Thomas Plaid Cymru 5:39, 21 Mehefin 2016

Diolch, Ddirprwy Lywydd, a diolch i’r Ysgrifennydd Cabinet am ei datganiad. Rwy’n teimlo’n hyderus wrth ymateb i’r datganiad yma, achos dyma’r sector o’r economi rwy’n gwneud y cyfraniad personol mwyaf iddi hi, sef bwyd a diod, ac rwy’n edrych ymlaen yn fawr iawn at ddathlu gyda’r NFU, yma yn y Cynulliad yfory, y bwyd o Gymru, a dathlu hefyd gyda CAMRA, ar ddiwedd y Cynulliad yfory, y ddiod o Gymru. Felly, rwy’n awyddus iawn i weld bod y sector yma, sydd wedi tyfu, fel y mae’r Gweinidog wedi dweud yn ei datganiad, dros y ddwy flynedd diwethaf, yn parhau i dyfu ac yn parhau i dyfu fwyfwy hefyd.

A gaf i ddechrau, felly, gyda chwestiwn ynglŷn â pherthynas y datganiad heddiw ar y sector yma gyda’n haelodaeth ni o’r Undeb Ewropeaidd? Rydym i gyd yn gyfarwydd, wrth gwrs, â’r ffaith bod pethau megis PGI ar gig oen Cymru yn helpu i hyrwyddo y cig hwnnw ac, wrth gwrs, mae dros 90 y cant o gynnyrch cig a llaeth Cymru sy’n cael ei allforio yn cael ei allforio i’r Undeb Ewropeaidd, sy’n dangos i mi fod hwn yn faes hollbwysig i ni barhau i fod yn aelodau ohono. Hoffwn ofyn i’r Ysgrifennydd pa asesiad sydd wedi cael ei wneud o’r berthynas â’r Undeb Ewropeaidd a thwf yn y sector yma. Ac os caf yn fanna jest ofyn un peth penodol iddi hi, efallai na fydd hi’n gallu ateb heddiw, ond os gall hi edrych am yr hyn sydd wedi digwydd i gais 'Carmarthen ham', cig moch hallt o Gaerfyrddin, ar gyfer dyfarniad PGI, achos rwy’n deall bod y cais yna ar hyn o bryd yn dal i hongian, fel 'Carmarthen ham' a dweud y gwir, ac mae eisiau symud ymlaen i wella hynny.

A gaf i droi at yr ail beth rwyf eisiau ei godi gyda’r Ysgrifennydd Cabinet, sef yr hyn rydym yn ei wneud ynglŷn â gwastraff bwyd? Fe soniodd yr Ysgrifennydd Cabinet am gytundeb Courtauld 2025. Dyma ymrwymiad sydd heb unrhyw ddyletswydd o gwbl i leihau gwastraff bwyd gan fusnesau a gan y sector cynhyrchu bwyd. Rwy’n siomedig iawn nad yw Llywodraeth San Steffan wedi mynd ati i ddeddfu, a dweud y gwir, fel ein cyfeillion ni yn Ffrainc, i gyfyngu ar wastraff bwyd ac i sicrhau bod dros 1 miliwn o dunelli o fwyd bob blwyddyn sy’n cael ei wastraffu, ond sydd yn addas i gael ei fwyta, yn cael ei gyfeirio at bobl sydd angen y bwyd yna. Ac yn y byd rydym i gyd yn byw ynddo, lle mae ein cymunedau ni yn llawn o fanciau bwyd, mae’n dal yn gywilydd ein bod ni’n gwastraffu cymaint o fwyd. Ac felly er fy mod i’n derbyn mai unig opsiwn Llywodraeth Cymru yw i fod yn rhan o Courtauld 2025, byddwn yn hoffi clywed gan yr Ysgrifennydd Cabinet fod y Lywodraeth hon yn awyddus i ddeddfu fel maen nhw wedi ei wneud yn Ffrainc, i roi dyletswydd ar fasnachwyr bwyd mawr a chynhyrchwyr bwyd i leihau gwastraff bwyd, i ailgylchu gwastraff bwyd ac i roi unrhyw fwyd sydd dros ben sydd yn addas ar gyfer ei fwyta i’w ddosbarthu ymysg y bobl hynny sydd angen bwyd.

A thra’n bod ni’n sôn am bobl sydd angen bwyd, a gaf i droi at ran arall o’r datganiad sef yr un am fwyta’n iach? Mae’n siomedig i ddeall bod bwyta ffrwythau a llysiau ffres yn unol a’r canllawiau, sef pump y diwrnod—er bod y rheini wedi codi, rwy’n meddwl, i saith y diwrnod nawr yn ôl rhai—. Ond, beth bynnag, rydym yn stryglo i hyd yn oed gyrraedd pump y diwrnod yma yng Nghymru, ac rydym wedi lleihau o 36 y cant o’r boblogaeth i 32 y cant o’r boblogaeth. Felly, rydym yn mynd tua’n ôl ynglŷn â chael pobl i fwyta mwy o fwyd iach, ac mae hynny yn gyswllt yn ôl, wrth gwrs, i’r datganiad a gawsom ni gan yr Ysgrifennydd iechyd gynnau fach.

Roedd Plaid Cymru yn ystod yr ymgyrch ddiwethaf wedi cynnig bod modd gwneud ffrwythau am ddim—rhoi powlenni o ffrwythau am ddim ym mhob ysgol a phob dosbarth ysgol yng Nghymru. A ydych chi’n meddwl bod hynny yn syniad da, ac oes modd cyflawni hynny gan ddefnyddio yn arbennig ffrwythau ffres o Gymru? Mae gennym mi fefus neu syfi hyfryd ar hyn o bryd. Fe fydd gellyg ac afalau hyfryd o Gymru, ac mae modd cyflwyno hynny i’n hysgolion ni.

Y maes arall rwyf eisiau troi ato yw un o ddiogelwch bwyd. Roeddech yn sôn am ddiogelwch bwyd yn y datganiad. Mae’r ffigur diweddaraf yn dangos mai dim ond 46 y cant o fwyd sy’n cael ei fwyta ym Mhrydain sy’n cael ei gynhyrchu ym Mhrydain, ac rydym wedi colli a llithro nôl yn sylweddol tu fewn i gynhyrchu bwyd yn lleol, a thu fewn i Gymru a Phrydain ar gyfer bwyta fan hyn. Nawr, mae rhai yn dadlau, wrth gwrs, mewn Undeb Ewropeaidd a marchnad sengl a byd rhyngwladol fod mewnforio bwyd ac ati yn mynd i fod yn ran bwysig o hynny. Rwy’n derbyn hynny yn llwyr, wrth gwrs, ond byddwn yn licio gweld ei bod yn fwriad gan y Llywodraeth i gynyddu faint o fwyd sy’n cael ei gynhyrchu yng Nghymru sy’n cael ei fwyta yng Nghymru, bod hwnnw yn amcan da ar gyfer ein ffermwyr ni, amcan da ar gyfer yr amgylchedd ac yn amcan da ar gyfer bwyta’n iach yn ogystal. Ac roeddwn yn siomedig iawn i glywed arweinydd UKIP gynnau fach wrth ofyn cwestiwn i’r Prif Weinidog yn awgrymu bod modd symud ymaith yn llwyr oddi wrth gymorth i ffermwyr yng Nghymru a mewnforio bwyd yn tsiêp, yn hytrach na chynhyrchu ein bwyd ni yn iachus ac yn dda i’r amgylchedd fan hyn yng Nghymru.

Y pwynt olaf rwyf eisiau ei godi, Ddirprwy Lywydd—diolch am eich amynedd—yw un ynglŷn â sut rydym yn defnyddio bwyd i roi argraff dda o’r wlad hon—o’r genedl felly. Rŷm ni’n gwybod bod pêl-droed yn gwneud hynny yn ddiweddar iawn, ond rwy’n meddwl bod gan fwyd hefyd rôl hynod o bwysig i chwarae yn fan hyn.

A gaf i ofyn i chi, a ydych chi o’r farn, fel y Gweinidog newydd sy’n edrych ar y maes yma, ein bod ni’n dathlu digon y bwyd a’r ddiod wych sydd gyda ni yng Nghymru? Rŷch chi’n sôn am yr ‘identity’ newydd yma i fwyd a diod o Gymru. Nid ydw i’n meddwl bod hynny wedi cydio—pan fod gan farf Joe Ledley mwy o ddilynwyr ar Trydar nag sydd gan fwyd a diod o Gymru, mae eisiau bach mwy o waith, rwy’n meddwl, i hybu hyn a hefyd i ddathlu. Mae yna—a byddwch chi’n rhan ohonyn nhw, mae’n siŵr, Weinidog—gannoedd o ffeiriau bwyd a digwyddiadau bwyd yn digwydd dros y misoedd nesaf ar hyd a lled Cymru. Rwy’n edrych ymlaen i fynd i Aberaeron i’r ffair bysgod, mae’r ffair bwyd môr Aberdaugleddau, Llambed—mae rhai ym mhob rhan o Gymru. Ond a ydym ni’n cydblethu’r rhain yn ddigon gyda marchnad ffermwyr hefyd a, rili, a ydych chi’n hapus gyda’r ffordd rŷm ni’n gwerthu bwyd Cymru y tu mewn i Gymru a thu hwnt hefyd? Rwy’n meddwl bod angen bach mwy o waith ar hyn. Fe gollwyd brand arbennig o gryf yn y gorffennol ac nid ydw i’n meddwl ein bod ni cweit wedi adennill y tir hwnnw.