<p>Cwestiynau Heb Rybudd gan Lefarwyr y Pleidiau</p>

Part of 2. 2. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Gymunedau a Phlant – Senedd Cymru am 2:28 pm ar 22 Mehefin 2016.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Carl Sargeant Carl Sargeant Labour 2:28, 22 Mehefin 2016

(Cyfieithwyd)

Mae gennym lawer o raglenni gwrthdlodi a rhaglenni sgiliau ac rwy’n gweithio gyda’r Gweinidog sy’n gyfrifol am hynny. Un o’n hymrwymiadau yw creu 100,000 o brentisiaethau newydd, gan weithio gyda’r rhaglen Cymunedau yn Gyntaf a Cymunedau am Waith. Mae Cymunedau am Waith yn cael ei roi mewn perygl mawr oherwydd y refferendwm yfory. Os byddwn yn gadael yr UE, beth fydd yn digwydd i’r cynllun, o ran y bobl sy’n rhan o’r rhaglenni hynny, a rhaglenni ar gyfer y dyfodol? Mae gennyf ystadegau ar gyfer y rhaglenni a oedd gennym yn ystod y Llywodraeth ddiwethaf, a byddwn yn hapus i ysgrifennu at yr Aelod a’u rhoi yn y Llyfrgell, Lywydd.