Part of the debate – Senedd Cymru am 5:23 pm ar 22 Mehefin 2016.
Mae’n ddrwg gennyf, a gaf fi ymyrryd? Os ydych yn siarad am gydrannau ceir—ac mae llawer o gydrannau ceir yn cael eu gwneud yng Nghymru—mae’r ffigur hwnnw mewn gwirionedd yn 9.8 y cant, sef bron 10 y cant. Byddai hynny’n gwneud llawer o ffatrïoedd cydrannau ceir yng Nghymru yn anghystadleuol, a fyddai’n golygu bod swyddi’n cael eu colli ac mae hynny’n golygu y byddai yna lai o dreth, llai o arian i dalu am ein GIG a llai o arian i dalu am ein gwasanaethau yng Nghymru. Rwy’n credu ei fod yn annerbyniol.