Part of the debate – Senedd Cymru am 5:42 pm ar 22 Mehefin 2016.
Mae ymgyrch refferendwm hir iawn ar fin dod i ben, diolch byth, ac rwy’n siŵr y bydd llawer yn cytuno nad yw tôn, natur a chynnwys yr ymgyrch hon wedi bod yn hysbyseb arbennig o dda i ymwneud democrataidd. Wrth i’r ymgyrch wynebu ei horiau olaf, mae’n ymddangos bod yr ochr dros adael yn arbennig yn dymuno canolbwyntio ar ddau faes sylfaenol, sef mewnfudo a sofraniaeth. Yn anffodus, ar y ddau fater, mae’r ochr dros adael wedi ceisio eu gorau glas i beidio â gadael i’r ffeithiau fynd o ffordd stori dda. Clywyd y ffeithiau ar fater mewnfudo droeon, ac nid wyf yn dymuno treulio gormod o amser yn eu hailadrodd y prynhawn yma, heblaw i ddweud fy mod yn credu’n gadarn fod ymfudo wedi gwneud Cymru’n gyfoethocach mewn ystyr ddiwylliannol ac economaidd. Bydd yna bob amser her mewn cymdeithasau agored a democrataidd i sicrhau cydbwysedd rhwng amlddiwylliannedd ac integreiddio, ond nid yw termau dadl a thrafodaeth o’r fath ond yn ddefnyddiol pan gânt eu cynnal mewn ysbryd o oddefgarwch, yn hytrach na cheisio cynyddu ofnau’r ochr arall. Efallai y bydd cyd-destun o’r fath yn bodoli rhyw ddydd.
Hoffwn fynd i’r afael yn benodol â mater sofraniaeth, sy’n aml yn cael ei gyfuno’n fwriadol ag egwyddor democratiaeth gan lawer o’r rhai sydd eisiau i Brydain adael yr UE. Wrth wrando’n ofalus ar y rhai sy’n gwneud yr achos dros ailddatgan sofraniaeth y wladwriaeth, gelllid maddau i rywun am feddwl ein bod yng nghwmni Thomas Cromwell, yr holl ganrifoedd hynny’n ôl. Bryd hynny, roedd yna ddadleuon ynglŷn ag a oedd sofraniaeth y Senedd yn disodli’r ysgrythur; yn awr, mae’n fater o sofraniaeth seneddol yn erbyn rheoliadau’r UE.
Ni chafwyd erioed amser gogoneddus o sofraniaeth seneddol absoliwt, hyd yn oed yn ystod dyddiau’r ymerodraeth. Yn yr ugeinfed ganrif, yn dilyn dinistr rhyfel, cafodd cytuniadau rhyngwladol a oedd yn creu hawliau sylfaenol i unigolion a chonfensiynau byd-eang yn gwahardd hil-laddiad eu derbyn fel rhai cyffredinol a thu hwnt i’r hyn a elwid yn sofraniaeth unrhyw genedl neu wladwriaeth. Ac ar y cyfandir hwn, a olchwyd â gwaed dros lawer o’r ganrif ddiwethaf, penderfynodd cenhedloedd ddod at ei gilydd mewn ysbryd o heddwch ac undod. Ac ar y pwynt hwn, hoffwn bwysleisio fy mod yn ystyried yr awgrym y byddai i’r DU adael yr UE yn arwain at ryfel yn anneallus a di-chwaeth, ond peidiwch â gadael i neb fychanu’r ffaith fod yr Undeb Ewropeaidd wedi gosod y seilwaith ar gyfer heddwch sy’n gwneud rhyfel rhwng ei aelodau’n amhosibl.
O safbwynt Cymru, wrth gwrs, gallwn gymharu a chyferbynnu dau undeb gwahanol iawn rydym yn aelodau ohonynt. Mae’r DU yn seiliedig ar yr egwyddor fod y Senedd yn San Steffan yn oruchaf. Nid oes angen unrhyw gyfansoddiad ysgrifenedig arnom yma i wybod mai dyna’r realiti gwleidyddol yn wir. Yma mae gennym undeb anghyfartal, anwastad a adeiladwyd i bara, nid i ffynnu. Mae gan yr UE, er ei holl ddiffygion a’i amherffeithrwydd, a’r heriau y mae’n eu hwynebu, egwyddorion sybsidiaredd a chonsensws wedi’u hadeiladu i mewn i’w wead sylfaenol. I’r rhai ohonom sy’n caru Cymru, rhaid i ni ystyried lle y bydd y pŵer pe bai’r DU yn gadael yr Undeb Ewropeaidd yfory. Bydd pleidlais dros adael yn gyfystyr â throsglwyddo swyddogaethau o’r bartneriaeth Ewropeaidd i ddwylo Whitehall, a fydd yn rhydd i wneud fel y mynn i gymunedau Cymru. Bydd pleidlais dros adael yn golygu bod Ewrop yn gadael Cymru ar ôl yng nghysgodion Palas San Steffan ym meddiant sefydliad wedi meddwi ar hunanhyder newydd.