Part of the debate – Senedd Cymru am 6:10 pm ar 22 Mehefin 2016.
Wel, dyna bwynt eithriadol o dda gan yr Aelod. Mae’n cysylltu â thrydedd ran y cynnig y cawn ein gwahodd i’w gefnogi y prynhawn yma, rwy’n credu: sef y byddem rywsut yn fwy llewyrchus pe baem yn gadael yr Undeb Ewropeaidd; y byddem yn fwy llewyrchus heb y 500 o gwmnïau o wledydd eraill yr UE sydd â gweithfeydd yng Nghymru, ac yn darparu mwy na 57,000 o swyddi; y byddem, rywsut, yn fwy llewyrchus pe bai’r 70,000 o bobl yng Nghymru sydd wedi elwa o gyllid yr Undeb Ewropeaidd i’w helpu i gael gwaith—pe na bai hwnnw ar gael i ni; a phe bai ffermio yng Nghymru, rywsut, yn fwy llewyrchus heb y €300 miliwn o gyllid Ewropeaidd y mae’n ei gael bob blwyddyn. Mae’r syniad y byddai Cymru yn well ei byd y tu allan i Ewrop yn gynnyrch yr economeg fwdw a ddisgrifiwyd i ni y prynhawn yma. Yn ei lle, cawn gynnig dirwasgiad wedi’i wneud ein hunain a’i achosi gennym ni ein hunain, gweithred enfawr o ffolineb economaidd, encilfa rhag realiti cymhleth y byd rydym yn byw ynddo mewn gwirionedd; ac ar ei orau, encil i’r llinellau ochr ac i ymylon y byd go iawn; ar ei waethaf, encil i lurguniadau ffiaidd poster sy’n camfanteisio ar arswyd plant ac anobaith eu rhieni, wedi’u dal mewn digwyddiadau mor bell y tu hwnt i’w cyfrifoldeb neu eu rheolaeth eu hunain.
Felly, Lywydd, dyna ni: rydym am gael Cymru sy’n gryfach, yn fwy diogel ac yn fwy ffyniannus, ac rydym yn gwybod sut i gyflawni hynny hefyd. Mae Cymru’n elwa’n aruthrol o’n haelodaeth o’r Undeb Ewropeaidd. Mae Cymru yn perthyn i Ewrop, mae angen i Gymru aros yn Ewrop ac yfory, gadewch i ni bleidleisio i wneud yn siŵr ein bod yn gwneud hynny.