Part of 1. 1. Cwestiynau i’r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 1:31 pm ar 28 Mehefin 2016.
Ailadroddaf eto yr ateb a roddais i'r cwestiwn gwreiddiol: mae dros 99 y cant o fusnesau fferm cymwys wedi cael eu talu—wedi cael taliad o’r cynllun taliadau sylfaenol. Os oes ffermydd unigol lle ceir anawsterau, y peth iawn i'w wneud yw codi’r anawsterau hynny gyda'r Gweinidog, fel y gellir eu hystyried ar ran yr unigolion hynny. Ond rydym ni’n perfformio'n well na Lloegr a'r Alban yn gyson, flwyddyn ar ôl blwyddyn pan ddaw i dalu ein ffermwyr.