Part of 1. 1. Cwestiynau i’r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 1:33 pm ar 28 Mehefin 2016.
Diolchaf i'r Prif Weinidog am yr ymateb yna. Mae wedi bod yn annymunol iawn clywed am y sylwadau hiliol sydd wedi cynyddu ers canlyniad refferendwm yr UE ac rydym ni’n gobeithio na fydd hynny’n effeithio ar y croeso gwirioneddol dda a roddwyd yng Nghymru i’r ffoaduriaid o Syria. Ond beth arall y mae’r Prif Weinidog yn ei gredu y gellir ei wneud i helpu plant sy'n ffoaduriaid yn benodol, a phlant ar eu pennau eu hunain sy'n ceisio lloches, fel eu bod yn cael cymaint o gymorth â phosibl gan awdurdodau lleol a'r cymunedau lle y cânt eu lleoli?