Part of 1. 1. Cwestiynau i’r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 1:36 pm ar 28 Mehefin 2016.
Brif Weinidog, a gaf i ymuno â'r rhai sydd eisoes wedi mynegi eu condemniad o'r ymosodiadau a’r beirniadaethau hiliol sydd wedi digwydd ar gyfryngau cymdeithasol ac mewn mannau eraill yn y diwrnodau diwethaf? Ond a allwch chi hefyd ymuno â mi i ganmol gwaith cymunedau ffydd ledled Cymru, sydd wedi gwneud eu gorau glas i amddiffyn y ffoaduriaid hynny o Syria a phobl sydd wedi dod i Gymru i ffoi erledigaeth yn eu gwledydd, ac, yn arbennig, Eglwys Uniongred Syria, sydd, wrth gwrs, â chynrychiolaeth gref yma yng Nghymru ac sydd wedi ymgysylltu'n gadarnhaol iawn gyda’r fforwm cymunedau ffydd, yr ydych chi, wrth gwrs, yn ei gadeirio, a gwaith y Cynulliad, gyda'r grŵp trawsbleidiol ar ffydd?