Part of 1. 1. Cwestiynau i’r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 1:46 pm ar 28 Mehefin 2016.
Diolch i chi am yr ateb yna, Brif Weinidog. Mae'r posibilrwydd o adael yr Undeb Ewropeaidd eisoes wedi rhoi economi'r DU mewn ansicrwydd dwfn. Ond, i Gymru, ceir risg ychwanegol i fuddsoddiad cyfalaf ar gyfer rhai o ymrwymiadau eich maniffesto, ac i ddiwydiant hefyd. Bwriedir i fetro’r de-ddwyrain, er enghraifft, gael ei ariannu yn rhannol gan gronfeydd strwythurol Ewrop, a allai gael eu sicrhau tan 2020 yn unig, os gellir eu sicrhau o gwbl. A allwch chi ddweud wrthym, felly, beth fydd yn digwydd nawr i fetro de Cymru, ac i’r prosiectau trafnidiaeth yr ydych chi wedi eu haddo ar gyfer y gogledd hefyd? Gan droi at ddiwydiant hefyd, a allwch chi ddweud beth sy’n debygol o ddigwydd i Tata Steel a dyfodol Port Talbot nawr, yn ogystal â gweithfeydd dur eraill yng Nghymru?