<p>Cwestiynau Heb Rybudd gan Arweinwyr y Pleidiau</p>

Part of 1. 1. Cwestiynau i’r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 1:55 pm ar 28 Mehefin 2016.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Mr Neil Hamilton Mr Neil Hamilton UKIP 1:55, 28 Mehefin 2016

(Cyfieithwyd)

A wnaiff y Prif Weinidog ymuno â mi heddiw hefyd i gondemnio ein Canghellor, George Osborne, y mae’n ymddangos nad yw wedi sylweddoli bod y refferendwm wedi dod i ben ac sy’n dal i barhau â phrosiect ofn, ac sydd wedi cyhoeddi heddiw y bydd toriadau i wariant a chynnydd i drethi yn yr hydref gan fod yn rhaid i ni fyw yn unol â’n modd, a bod y rhain yn eiriau gwael o geg Canghellor gwaethaf Prydain ers tro byd, sydd wedi dyblu’r ddyled genedlaethol mewn pum mlynedd ac sy’n dal i gynnal diffyg cyllideb o £60 biliwn neu £70 biliwn y flwyddyn? Nid oes unrhyw reswm o gwbl yn deillio o'r refferendwm i orfodi’r cynnydd i drethi na thoriadau mewn gwariant dim ond oherwydd yr anwadalrwydd yn y tymor byr yn y marchnadoedd ariannol, a fydd yn cael ei ddatrys yn fuan.