<p>Triniaeth Canser</p>

Part of 1. 1. Cwestiynau i’r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 1:57 pm ar 28 Mehefin 2016.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Mohammad Asghar Mohammad Asghar Conservative 1:57, 28 Mehefin 2016

(Cyfieithwyd)

Diolch yn fawr iawn am yr ateb, Brif Weinidog. Mae Cancer Research UK wedi dweud y bu cynnydd sylweddol i nifer y bobl sy'n cael diagnosis â’r math mwyaf difrifol o ganser y croen yng Nghymru yn ystod y 40 mlynedd diwethaf. Mae'r Sefydliad Cenedlaethol dros Ragoriaeth mewn Iechyd a Gofal wedi cymeradwyo pâr o gyffuriau canser, ipilimumab a nivolumab—dyma’r ddwy feddyginiaeth—i'w defnyddio yn Lloegr, a wnaeth, o’u defnyddio gyda’i gilydd, leihau’r math mwyaf ymosodol neu farwol o ganser y croen gan 69 y cant. A allai'r Prif Weinidog hysbysu’r Cynulliad a fydd y therapi hwn a’r cyffur hwn ar gael yng Nghymru cyn gynted â phosibl?