<p>Triniaeth Canser</p>

Part of 1. 1. Cwestiynau i’r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 1:58 pm ar 28 Mehefin 2016.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Vikki Howells Vikki Howells Labour 1:58, 28 Mehefin 2016

(Cyfieithwyd)

Brif Weinidog, rydym ni’n ymwybodol o bwysigrwydd dewisiadau ffordd o fyw iach i leihau'r risg o ganser, felly mae'n dda gweld o ganlyniadau arolwg iechyd Cymru 2015 bod nifer yr ysmygwyr yng Nghymru wedi gostwng o 26 y cant i 19 y cant o’r boblogaeth, sydd hefyd yn golygu bod Llywodraeth Cymru wedi rhagori ar ei tharged ar gyfer lleihau cyfraddau ysmygu. Mae'r Bil iechyd cyhoeddus a ailystyriwyd yn cynnig cyfle arall i hybu ffyrdd iach o fyw ac i godi ymwybyddiaeth o sgrinio wrth fynd i'r afael â chanser. A wnaiff Llywodraeth Cymru ystyried hyn pan fydd yn cyflwyno ei deddfwriaeth newydd?