<p>Canlyniad y Refferendwm ar yr Undeb Ewropeaidd</p>

Part of 1. 1. Cwestiynau i’r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 2:13 pm ar 28 Mehefin 2016.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Carwyn Jones Carwyn Jones Labour 2:13, 28 Mehefin 2016

(Cyfieithwyd)

Yn sicr. Os nad yw'r arian yn cael ei ddarparu gan Lywodraeth y DU, yna mae'n dilyn yn rhesymegol na fyddwn yn gallu ariannu llawer o'r prosiectau sy'n cael eu cynllunio ar hyn o bryd i gael eu hariannu gan arian Ewropeaidd, gan nad yw’r arian hwnnw gennym ni. Felly, heb yr arian hwnnw, mae llawer o brosiectau, y tu hwnt i'r cyfnod pan fydd y DU wedi gadael yr Undeb Ewropeaidd, na fydd modd eu hariannu oni bai bod y sicrwydd hwnnw’n cael ei roi. Mae hynny'n gwbl hanfodol ar gyfer ein dyfodol; dyna pam yr ysgrifennais at Brif Weinidog y DU ddoe er mwyn cael y sicrwydd ar roddwyd ar y bwrdd. Mae hynny'n golygu gwneud yn siŵr nad yw Cymru’n colli’r un geiniog—yr un geiniog—o ganlyniad i’r refferendwm ddydd Iau diwethaf. Ni waeth sut y pleidleisiodd pobl, nid wyf yn credu bod unrhyw un wedi pleidleisio i Gymru gael llai o arian.