<p>Canlyniad y Refferendwm ar yr Undeb Ewropeaidd</p>

Part of 1. 1. Cwestiynau i’r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 2:14 pm ar 28 Mehefin 2016.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Carwyn Jones Carwyn Jones Labour 2:14, 28 Mehefin 2016

(Cyfieithwyd)

Mae'n wir, oherwydd ein bod yn gwybod bod llawer iawn o gwmnïau yng Nghymru sydd yma dim ond oherwydd y mynediad y maen nhw’n ei gael at y farchnad sengl. Os byddant yn colli mynediad at y—mynediad am ddim; byddant yn dal i allu gwerthu yn y farchnad. Hynny yw, nid oes unrhyw un yn awgrymu na fydd unrhyw fasnach o gwbl, ond telerau’r fasnach sy'n bwysig. Er enghraifft, os ydych chi’n gwmni sydd â chanolfannau yn y DU a gwledydd eraill yn Ewrop, os gwelwch fod un ffatri weithgynhyrchu yn y DU yn ddarostyngedig i dariff o 5 y cant neu 10 y cant ac nad yw rhai eraill, yna nid oes angen athrylith i weithio allan ble bydd buddsoddiad yn mynd yn y dyfodol. Felly, mae'n gwbl hanfodol bod y farchnad sengl yn cael ei chadw ac nad oes unrhyw rwystrau tariff rhyngom ni a'n marchnad allforio fwyaf, sef yr UE.