– Senedd Cymru am 5:28 pm ar 28 Mehefin 2016.
Yr eitem nesaf, felly, yw eitem 14—y cynnig i ddyrannu Cadeiryddion pwyllgorau i’r grwpiau gwleidyddol. Rwy’n galw ar aelod o’r Pwyllgor Busnes i wneud y cynnig—Simon Thomas.
Cynnig NDM6056 Elin Jones
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheol Sefydlog 17.2A, yn cytuno mai'r grwpiau gwleidyddol y caiff cadeiryddion pwyllgorau eu hethol ohonynt fydd fel a ganlyn:
(i) Y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg—Llafur;
(ii) Y Pwyllgor Newid Hinsawdd, Amgylchedd a Materion Gwledig—UKIP;
(iii) Y Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol—Llafur;
(iv) Y Pwyllgor Diwylliant, y Gymraeg a Chyfathrebu—Plaid Cymru;;
(v) Pwyllgor yr Economi, Seilwaith a Sgiliau—Ceidwadwyr Cymreig;
(vi) Y Pwyllgor Cydraddoldeb, Llywodraeth Leol a Chymunedau—Llafur;
(vii) Y Pwyllgor Cyllid—Plaid Cymru;
(viii) Y Pwyllgor Iechyd, Gofal Cymdeithasol a Chwaraeon—Plaid Cymru;
(ix) Y Pwyllgor Deisebau—Llafur;
(x) Y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus—Ceidwadwyr Cymreig;
(xi) Y Pwyllgor Polisi a Deddfwriaeth Wrth Gefn—Llafur;
(xii) Y Pwyllgor Safonau Ymddygiad—Llafur.
Diolch i chi, Lywydd. Rwyf yn cynnig yn ffurfiol, ond dim ond er mwyn ychwanegu at hynny a thynnu sylw'r Cynulliad at y ffaith ein bod wedi pasio Rheolau Sefydlog yn gynharach yn caniatáu i hyn fynd yn ei flaen. Yn y Rheolau Sefydlog hynny, nid oeddem yn ei gwneud yn glir—ac nid yw yn y Rheolau Sefydlog—bod yn rhaid i Aelod fod yn bresennol yma er mwyn cael ei enwebu. Felly, mae'n bosibl i rywun gael ei enwebu heddiw pan nad yw'n bresennol i dderbyn yr enwebiad hwnnw. Yn anffodus, ni wnaethom unrhyw ddarpariaeth ar gyfer hynny yn ein Rheolau Sefydlog.
Wel, roeddech chi'n rhan o lunio'r Rheolau Sefydlog hynny, Simon Thomas. [Chwerthin.]
Y cwestiwn yw: a ddylid derbyn y cynnig i ddyrannu Cadeiryddion pwyllgorau i’r grwpiau pleidiol? A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? Os na, felly, derbynnir y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.