13. 14. Cynnig i Ddyrannu Cadeiryddion Pwyllgorau i’r Grwpiau Plaid

Part of the debate – Senedd Cymru am 5:28 pm ar 28 Mehefin 2016.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Mr Simon Thomas Mr Simon Thomas Plaid Cymru 5:28, 28 Mehefin 2016

(Cyfieithwyd)

Diolch i chi, Lywydd. Rwyf yn cynnig yn ffurfiol, ond dim ond er mwyn ychwanegu at hynny a thynnu sylw'r Cynulliad at y ffaith ein bod wedi pasio Rheolau Sefydlog yn gynharach yn caniatáu i hyn fynd yn ei flaen. Yn y Rheolau Sefydlog hynny, nid oeddem yn ei gwneud yn glir—ac nid yw yn y Rheolau Sefydlog—bod yn rhaid i Aelod fod yn bresennol yma er mwyn cael ei enwebu. Felly, mae'n bosibl i rywun gael ei enwebu heddiw pan nad yw'n bresennol i dderbyn yr enwebiad hwnnw. Yn anffodus, ni wnaethom unrhyw ddarpariaeth ar gyfer hynny yn ein Rheolau Sefydlog.