2. 2. Dadl: Canlyniad Refferendwm yr UE

Part of the debate – Senedd Cymru am 2:18 pm ar 28 Mehefin 2016.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Carwyn Jones Carwyn Jones Labour 2:18, 28 Mehefin 2016

(Cyfieithwyd)

Diolch, Lywydd. Wel, mae llais democrataidd y bobl wedi cael ei glywed, ac mae'n rhaid i ni barchu hynny, ond mae'n rhaid i ni ddweud bod y ddadl a ragflaenodd y bleidlais ddydd Iau diwethaf wedi profi i fod yn rhwygol iawn i’n cymunedau. Mae'n amser erbyn hyn i roi'r gorau i'r rhethreg ddi-fudd, cynhennus, a gweithio tuag at adfer cydlyniant cymunedol a gwneud yr hyn yr ydym wedi cael ein hethol i'w wneud, a hynny yw cyflawni ar gyfer pobl Cymru. Beth fydd yn dilyn yn awr yw trafodaethau hir, o bosibl yn para blynyddoedd, dan y broses erthygl 50, a ddylai, fel y bydd Aelodau wedi fy nghlywed yn dweud yn gynharach, ddechrau, yn fy marn i, heb ormod o oedi, gyda'r UE, wrth gwrs, er mwyn taro cytundeb ar y trefniadau ar gyfer tynnu'n ôl ac ailddiffinio ein perthynas â'r Undeb Ewropeaidd. Nawr, nid oes gan unrhyw un syniad clir o sut y mae 'allan' yn edrych. Dyna'r mater y mae'n rhaid ymaflyd ag ef ar hyn o bryd a bydd honno’n broses gymhleth. Byddwn yn gweithio'n ddiflino yn ystod y cyfnod hwn er mwyn sicrhau nad ydym yn cael ein hesgeuluso ac i frwydro am y fargen orau bosibl i Gymru.

Mae angen i ni wybod, yn gyntaf oll, beth yw gweledigaeth Llywodraeth y DU o’r byd y tu allan i'r UE. Mae angen i ni wybod hynny cyn gynted ag y bo modd er mwyn dod â sefydlogrwydd yn ôl i'r marchnadoedd ac i roi darlun clir o'r hyn sydd gan ein gwlad i'w gynnig i fuddsoddwyr posibl. Rwyf wedi bod yn glir bod y cwmnïau yr wyf wedi siarad â nhw bob amser yn awyddus i ddod i Gymru er mwyn cael mynediad i'r farchnad sengl, ac mae hynny'n rhywbeth y mae'n rhaid inni sicrhau nad yw'n cael ei golli fel mantais gystadleuol.

Fel y dywedais ddoe, mae'n hanfodol bod telerau terfynol y cytuniad i adael yr UE yn dod i bob un o'r pedair senedd genedlaethol. Mae hynny'n gyson â datganiad y Prif Weinidog bod hon yn wlad sy'n cynnwys pedair cenedl a’i ymrwymiad i sicrhau y byddwn yn rhan lawn o'r broses drafod gyda Brwsel. Nid yw hynny wedi tanseilio canlyniad yr wythnos diwethaf; mae’n syml yn ychwanegu at yr angen i sicrhau bod unrhyw gytundeb yn cael ei gymeradwyo gan hon, sef senedd etholedig pobl Cymru.

Ddoe penderfynasom ffurfio tîm arbenigol o weision sifil wedi'u sefydlu yn ein swyddfa bresennol ym Mrwsel, yn annibynnol ar Lywodraeth y DU, i archwilio lle y gall ein blaenoriaethau gael eu datblygu yn uniongyrchol gyda'r UE. Bydd hyn yn rhedeg ochr yn ochr, ond ni fwriedir iddo ddisodli, ein cyfranogiad a addawyd yn null negodi Llywodraeth y DU. Mae angen i ni roi sicrwydd i fewnfuddsoddwyr, y rhai sydd wedi dangos ffydd yng Nghymru, ein bod yn dal ar agor ar gyfer busnes a bod gennym lawer i'w gynnig o hyd. Rydym yn benderfynol fel Llywodraeth i barhau i ymgysylltu yn rhyngwladol, i edrych tuag allan a bod o blaid busnes yn ein hymagwedd, a dyna'r hyn fydd yn cynnal hyder busnes. Bydd hefyd yn helpu, wrth gwrs, mewnfuddsoddwyr i gymryd y penderfyniadau cywir yn yr hyn sydd bellach yn amgylchedd ansicr.

Rydym wedi gweithio'n galed ar ddatrys yr argyfwng dur. Mae hynny'n anffodus yn parhau, a byddwn yn parhau i weithio gyda Tata a chefnogi gweithwyr dur wrth i ni geisio wynebu’r heriau enfawr a ddaeth gyda chanlyniad y refferendwm.

Lywydd, rwyf eisoes wedi amlinellu fy mlaenoriaethau uniongyrchol i amddiffyn buddiannau Cymru yn yr amgylchiadau gwahanol hyn. Yn gyntaf, mae'n rhaid i ni amddiffyn ein swyddi. Gwneud popeth y gallwn er mwyn cynnal hyder a sefydlogrwydd economaidd yw'r brif dasg. Rydym wedi adeiladu perthynas ragweithiol ardderchog gyda busnesau Cymru a mewnfuddsoddwyr, a bydd angen i’r rhain ddwysau yn dilyn pleidlais ddoe.

Yn ail, mae'n rhaid i ni chwarae rhan lawn mewn trafodaethau ynglŷn ag amseru a thelerau tynnu'n ôl y DU o'r UE. Mae ein cyfranogiad yn hanfodol, nid yn unig ar gyfer materion datganoledig uniongyrchol, ond ar gyfer yr ystod gyfan o faterion sy'n effeithio ar fuddiannau cenedlaethol hanfodol i Gymru. Mae'r Prif Weinidog eisoes wedi dweud y dylai Cymru chwarae rhan lawn yn y trafodaethau ar delerau tynnu'n ôl y DU a’n perthynas yn y dyfodol ag Ewrop, a byddaf yn sicrhau bod Llywodraeth y DU yn cadw at ei gair.

Yn drydydd, fel yr wyf wedi dweud sawl gwaith eisoes y prynhawn yma, mae'n hanfodol bod y DU yn trafod cadw mynediad at y 500 miliwn o gwsmeriaid yn y farchnad sengl.

Yn bedwerydd, dylem drafod cyfranogiad parhaus ar delerau cyfredol yn rhaglenni pwysig yr UE fel y polisi amaethyddol cyffredin a chronfeydd strwythurol hyd at ddiwedd 2020, os byddwn yn dal i fod yno yn 2020. Byddai hynny'n hwyluso dilyniant i ddinasyddion, cymunedau, busnesau a buddsoddwyr tra bod trefniadau yn cael eu gwneud ar gyfer y tymor hwy.

Yn bumed, mae Cymru, fel y gwyddom, yn fuddiolwr net gan yr UE, o rai cannoedd o filiynau o bunnoedd. Erbyn hyn, mae achos llethol am adolygiad mawr ac ar unwaith o fformiwla Barnett, gan gymryd i ystyriaeth yr anghenion sy'n codi o dynnu'n ôl o’r UE, a galwaf heddiw am i’r addewid a wnaed na fydd Cymru yn colli ceiniog i gael ei warantu, a hefyd mai pobl Cymru fydd yn penderfynu sut y caiff yr arian hwnnw ei wario.

Yn olaf, mae tynnu'n ôl o’r UE yn newid cyfansoddiadol enfawr ar gyfer y DU. Mae goblygiadau yr un mor bellgyrhaeddol ar gyfer y setliad datganoli. Mae hynny'n golygu bod yn rhaid i'r berthynas rhwng gweinyddiaethau datganoledig a Llywodraeth y DU gael eu rhoi ar sail gwbl wahanol bellach. Fel arall, mae perygl mai’r pris i'w dalu am adael yr UE fydd diwedd y DU, ac mae hynny'n rhywbeth a fydd yn achos pryder i lawer iawn o bobl.

Fel y dywedais yr wythnos diwethaf, bydd Llywodraeth Cymru yn brwydro dros bobl Cymru ym mhob un o'r meysydd allweddol hynny, ond hefyd yn ymdrechu i uno’r rhaniadau a amlygwyd drwy’r bleidlais hon, gan fynd â Chymru ymlaen gyda'n gilydd, sef yr hyn yr wyf yn ei gredu y mae'r genedl ei eisiau a’i angen nawr. Mae teimladau wedi eu cynhyrfu gan y ddadl hon, mi wn, ond mae'n amser nawr am bwyll, nid adweithio'n ddifeddwl. Bydd llawer yn poeni am y chwerwder a dreiddiodd i'r ymgyrch. Ni fydd hyn yn ein helpu gyda'r heriau sylweddol hyn sydd bellach yn wynebu pob un ohonom. Mae angen hefyd inni ganfod ffordd o siarad â’n gilydd unwaith eto. Efallai y byddwn wedi pleidleisio mewn gwahanol ffyrdd, ond rydym yn dal yn gymdogion, yn ffrindiau ac yn deuluoedd. Rydym yn dal i wynebu'r heriau heddiw yr oeddem yn eu hwynebu ddoe o ran y GIG, yr economi ac addysg, ac mae'n rhaid i ni oresgyn yr heriau hynny a chyflawni dros bobl Cymru. Mae llawer o waith i'w wneud, ond yn anad dim, fy nod fydd y fargen orau i bobl Cymru.