Part of the debate – Senedd Cymru am 2:37 pm ar 28 Mehefin 2016.
Na, na. Holl bwynt y ddeddfwriaeth gwrth-ddympio, y gallwch ei defnyddio o dan reolau Sefydliad Masnach y Byd, yw nad ydyw ond pan fo dur yn cael ei allforio i’ch gwlad yn is na'r gost ar y farchnad fyd-eang, nid yw hyn yn wir am ddur a gynhyrchir yn yr Undeb Ewropeaidd , ond mae'n wir o ran dur a gynhyrchir yn Tsieina, sef achos yr holl broblemau-—[Torri ar draws]. Wnes i ddim pleidleisio yn ei erbyn, o gwbl. [Torri ar draws]. Ni wnaeth fy mhlaid bleidleisio yn ei erbyn, felly rydych wedi cael eich camarwain, ond nid yw hynny'n syndod, nac yw?
Felly, nid yw'r farchnad sengl yn hollbwysig yn hyn i gyd, oherwydd mai dim ond 4 y cant yw’r tariff cyfartalog y mae’r UE yn ei gymhwyso yn erbyn gwledydd eraill yn y byd, sy'n allforio i mewn i'r farchnad sengl,. Mae tariffau uwch ar ddiwydiannau penodol, wrth gwrs, ac mae ceir yn un ohonynt.
Dylem drafod cytundeb masnach rydd â'r Undeb Ewropeaidd. Dyna'r hyn yr hoffwn i ei weld yn bersonol ac y byddai fy mhlaid yn hoffi ei weld. Y drafferth yw, nid yw'r Undeb Ewropeaidd yn dda iawn am drafod cytundebau masnach rydd, oherwydd dim ond dau ohonynt sydd—Mecsico a De Corea. Mae cytundebau undeb tollau eraill, ond, yn gyffredinol, mae'r cytundebau masnach gyda gwledydd fel India, neu'r Unol Daleithiau, yn cael eu boddi am flynyddoedd mewn trafodaeth ddiddiwedd, gan ein bod yn gorfod cael 27 aelod-wladwriaeth i gytuno. Dyna un o'r problemau gyda'r UE—ei natur anymatebol, oherwydd yr anhyblygrwydd a osodwyd arni gan ei strwythur cyfansoddiadol.
Mae Canghellor yr Almaen wedi dweud heddiw na all Prydain ddisgwyl dewis dim ond y gorau yn y trafodaethau sydd bellach yn mynd i ddechrau, ac rwy’n deall hynny. Nid wyf eisiau unrhyw ddewis; yr unig beth yr wyf ei eisiau yw masnach rydd gyffredinol â'r Undeb Ewropeaidd, ar sail deg a rhydd. Dyna’r cyfan y dylai Prydain ofyn amdano, a dyna’r cyfan y gofynnir i’r UE ei ildio, a fyddai o fudd i'r ddwy ochr. Mae masnach yn digwydd oherwydd ei fod o fudd i'r gwerthwr a'r prynwr—fel arall, ni fyddai'n digwydd.
Felly, does dim rheswm dros fod yn besimistaidd, ar wahân i afresymoldeb gwleidyddion sy'n cymryd rhan yn y trafodaethau ar y naill ochr a'r llall. Nid oes unrhyw reswm i fod yn besimistaidd am ragolygon Cymru. Mae dweud bod canlyniad dydd Iau diwethaf wedi ei gael drwy gyfrwng cyflwyno prosbectws ffug ar ran yr ymgyrch ‘gadael’, wrth gwrs, yn lol. Nid un uned, gydlynol oedd yr ymgyrch ‘gadael’; clymblaid lac o wahanol rymoedd, gwahanol bleidiau, gwahanol grwpiau â budd ydoedd, ac mae gennym i gyd wahanol syniadau ynglŷn â sut y dylai'r dyfodol edrych.
Felly, y cyfan a ddywedaf yw, i ailadrodd yr hyn a ddywedais yn gynharach yn y Siambr hon wrth y Prif Weinidog, y bydd UKIP yn chwarae ei rhan yn llawn wrth ei gynorthwyo ef i gael y fargen orau bosibl yn rhan o'i drafodaethau gyda Llywodraeth y DU a gyda'r Undeb Ewropeaidd. Rwy’n gobeithio y bydd yn awyddus i gynnwys mân bleidiau eraill yn y tŷ hwn yn y broses hon oherwydd credaf y gallwn helpu i roi mwy o hygrededd a mwy o rym i’w drafodaethau, oherwydd, drwy gael llais unfrydol, yn hyn o beth os nad mewn unrhyw beth arall, rydym yn sicr yn well, yn gryfach ac yn fwy diogel pan ein bod yn gweithredu gyda'n gilydd.