Part of the debate – Senedd Cymru am 2:50 pm ar 28 Mehefin 2016.
Gyda’r ganran a bleidleisiodd bron i 60 y cant yn uwch nag yn etholiad y Cynulliad ym mis Mai, mae pleidleiswyr Cymru wedi datgan ac mae'n rhaid i ni i gyd barchu'r canlyniadau. Roedd hyn yn ymwneud â hawl democrataidd pobl y genedl hon i benderfynu ar eu tynged eu hunain. Mae arweinydd y Blaid Lafur yn San Steffan yn wynebu pleidlais o ddiffyg hyder gan ei Aelodau Seneddol ei hun, er gwaethaf y ffaith fod mwyafrif mawr wedi pleidleisio dros aros yn ei etholaeth ei hun. Yma yng Nghymru, ymgyrchodd y Prif Weinidog ac arweinydd yr wrthblaid dros aros yn yr UE, ond mae pobl yn eu hetholaethau eu hunain wedi pleidleisio i adael.
Mae pobl wedi dweud wrthyf bod ganddynt yr hawl erbyn hyn i ddisgwyl gwahanol fath o wleidyddiaeth yn deillio o fae Caerdydd a'r Senedd. Mae angen i'r Prif Weinidog yn awr ddangos ei allu i ddarparu arweinyddiaeth ar y mater hwn sy'n adlewyrchu barn yr holl bleidiau a holl bobl Cymru.
Fel y dywedodd y Prif Weinidog yn ei araith ymddiswyddo, bydd angen cyd-drafod â'r Undeb Ewropeaidd i gynnwys ymgysylltiad llawn y Llywodraethau datganoledig i sicrhau bod buddiannau pob rhan o'r Deyrnas Unedig yn cael eu diogelu a’u hybu. Mae'n rhaid i ni sicrhau yn gyntaf bod yr arian a oedd yn mynd i mewn i gronfeydd strwythurol a’r polisi amaethyddol cyffredin yn parhau. Mae'n rhaid i ni wedyn sicrhau bod Cymru yn cael ei chyfran o'r arian a ddychwelwyd sydd dros ben. Ac mae'n rhaid sefydlu pwyllgor newydd o Aelodau'r Cynulliad i sbarduno ymateb Cymru i refferendwm yr UE, gan adlewyrchu barn y cyhoedd yng Nghymru yn ei wneuthuriad.
Mae'r Prif Weinidog wedi rhoi amser i ni benderfynu beth ddylai perthynas newydd Prydain ag Ewrop fod trwy oedi hysbysiad erthygl 50 o dan gytuniad Lisbon, a fydd yn cychwyn cyfnod o ddwy flynedd i drafod y trefniadau ar gyfer dod allan oni bai bod y Cyngor Ewropeaidd, mewn cytundeb â’r aelod-wladwriaeth dan sylw, yn unfrydol yn penderfynu ymestyn y cyfnod hwn. Yn y cyfamser, ni fydd unrhyw newid i hawliau pobl i deithio a gweithio ac i’r ffordd y mae ein nwyddau a’n gwasanaethau yn cael eu masnachu, nac i'r ffordd y mae ein heconomi a’n system ariannol yn cael eu rheoleiddio.
Fel y mae Boris Johnson wedi ei ddweud, ni allwn droi ein cefnau ar Ewrop—rydym yn rhan o Ewrop. Rydym yn condemnio yn llwyr y camdrinwyr hiliol sy’n ceisio manteisio ar ganlyniad y refferendwm. Mae'n rhaid i ni fod yn fodel o ddemocratiaeth amlhiliol, aml-ffydd, cyfle cyfartal.
Roedd yr ymateb difeddwl gan y marchnadoedd ariannol yn rhagweladwy, yn hapfuddsoddol ac yn ormodol, ac mae angen barn wrthrychol wrth i farchnadoedd ddechrau ymdawelu. Mae’r Trysorlys, Banc Lloegr a'r Awdurdod Ymddygiad Ariannol wedi sefydlu cynlluniau wrth gefn cadarn ar gyfer y cyfnod ariannol yn union ar ôl pleidlais ‘gadael’. Bydd y DU yn dal i fod yn y G7, y Gronfa Ariannol Ryngwladol a Chyngor Diogelwch y Cenhedloedd Unedig. Mae ein diogelwch bob amser wedi dibynnu ar Gytundeb Sefydliad Gogledd yr Iwerydd, a bydd Prydain hefyd yn parhau i drafod amddiffyn— [Torri ar draws.]—a rhannu cudd-wybodaeth gyda phartneriaid Ewropeaidd. Un ymyriad yn unig.