2. 2. Dadl: Canlyniad Refferendwm yr UE

Part of the debate – Senedd Cymru am 2:53 pm ar 28 Mehefin 2016.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Mark Isherwood Mark Isherwood Conservative 2:53, 28 Mehefin 2016

(Cyfieithwyd)

Nac ydw.

Mae ein diogelwch, fel y dywedaf, wedi dibynnu ar NATO erioed. Y tu allan i'r UE, rydym yn adennill y rhyddid i greu cytundebau masnach gan barhau i fasnachu gyda'n partneriaid yn Ewrop. Mae'r DU yn gyfrifol am tua 5.5 miliwn o swyddi ar draws Ewrop. Ni fydd yr UE eisiau rhyfel masnach; bydd eisiau masnach rydd.  Mae Markus Kerber, pennaeth y BDI—Cydffederasiwn Diwydiant Prydain yr Almaen —wedi annog yr Almaen a'r UE i lunio cyfundrefn masnach rydd ôl-Brexit sy'n ei galluogi i gynnal a chadw’r lefelau masnach sydd ganddynt â'r DU. Mae'r Canghellor yr Almaen, Angela Merkel, wedi dweud nad oes angen i’r Undeb Ewropeaidd fod yn arbennig o gas mewn unrhyw ffordd yn y trafodaethau â Phrydain ynglŷn â gadael yr UE. Mae’r Arlywydd Obama wedi dweud y bydd y berthynas arbennig rhwng yr Unol Daleithiau a Phrydain yn parhau yn dilyn y DU yn gadael yr Undeb Ewropeaidd. Prydain, wedi'r cyfan, yw mewnfuddsoddwr mwyaf America. Mae Arlywydd Ffrainc, François Hollande, wedi addo cynnal perthynas â Phrydain, yn arbennig yn ymwneud â mewnfudwyr yn croesi rhwng y ddwy wlad a chydweithrediad milwrol ac economaidd. Dywedodd Gweinidog Cyllid Canada:

Rydym yn parchu dewis pobl Prydain a byddwn yn parhau i fod yn bartner cryf i'r DU ac i'r UE. Mae ein hanes a rennir yn ein gwneud yn bartneriaid masnachu naturiol, ac rwy’n edrych ymlaen at gynnal y cysylltiadau economaidd agos hynny.

A gallwn fynd ymlaen, ond mae amser yn brin. Prydain yw un o economïau mwyaf y byd—gwlad fyd-eang sydd eisoes yn cynnal mwy o fasnach y tu allan i'r UE nag unrhyw aelod wladwriaeth arall ac eithrio Malta. Daw ein hunig fygythiad gwirioneddol o'r llais dinistr sy'n ceisio darnio'r Deyrnas Unedig, rhannu ei phobloedd, lleihau ei holl rannau a damnio’r hyn a elwir yn Alban annibynnol i aelodaeth ardal yr ewro a thwll du yn ei chyllideb. Mae hynny'n warthus. Wedi'r cyfan, mae'n ddyletswydd ar bob un ohonom i ddiogelu sofraniaeth a chyfanrwydd ein Teyrnas Unedig.