Part of the debate – Senedd Cymru am 3:02 pm ar 28 Mehefin 2016.
Cefais fy ethol. Mae'n rhaid i ni anwybyddu deisebau amheus, hunan-les gwleidyddol—do, fe fu deisebau y profwyd bod gwallau ynddynt ar-lein—a hunan-les gwleidyddol a'r rhai sy'n honni na all y Deyrnas Unedig sefyll ar ei phen ei hun. Mae gennym gyfle unwaith mewn oes i gael llawer iawn i Gymru ac i Brydain Fawr, ac rwy’n annog pob ochr i weithio gyda'i gilydd i gael y telerau mynd allan yn iawn. Rydym yn ystyried bod unrhyw weithredoedd o gamwahaniaethu a malais tuag at unrhyw berson yn wrthun.