Part of the debate – Senedd Cymru am 3:10 pm ar 28 Mehefin 2016.
Wel, mae’r hyn a ddigwyddodd ddydd Iau yn bwysig. Mae'n bwysig, gorff ac enaid, a bydd y goblygiadau yn ymestyn ar hyd y cenedlaethau. Mae'n bwysig yma, mae'n bwysig yn Ewrop, ac mae hefyd yn dweud llawer iawn am gyflwr democratiaethau’r Gorllewin. Roedd hefyd yn siarad am rywbeth penodol iawn, sef ein haelodaeth o'r UE, ond rwy’n meddwl bod yna wersi ehangach i bob un ohonom sydd yn y Cynulliad hwn eu cadw mewn cof wrth i ni wasanaethu ein mandad yn hwn, y pumed Cynulliad, ac mae'n wers, rwy'n credu, y bydd yn rhaid i wleidyddion ar draws y byd ei dysgu hefyd.
Ond yr hyn sy'n bwysig ar unwaith yw penderfynu pa fath o berthynas y dylem ei chael â’r UE yn awr, a hanfod hynny yw pa o fynediad neu aelodaeth o’r farchnad sengl y dylem fwynhau yn awr. Ni ellir osgoi hyn, mae'n rhaid ei wynebu a dyma’r peth mwyaf a fydd yn penderfynu ar ein perthynas yn y dyfodol ac a fydd wrth wraidd sicrhau ein rhagolygon economaidd. Roeddwn i'n meddwl bod y Prif Weinidog yn llygad ei le ddoe wrth bwysleisio, mewn ymateb i gwestiwn gan Aelod SNP, fod Prydain wedi’i hadeiladu ar undeb economaidd ac mae angen i ni weld yr undeb yn ffynnu yn awr, ond hefyd y farchnad sengl sydd wedi'i sefydlu, fel polisi Prydain, i raddau helaeth, o ganol y 1980au, yn Ewrop.
Ymddengys i mi mai economi Cymru yw'r un mwyaf agored i niwed yn y DU, a hon felly yw’r economi sydd fwyaf dibynnol ar gael perthynas effeithiol, adeiladol a chynhyrchiol â'r UE. Rwy’n gobeithio y bydd pob un sy’n cefnogi Brexit yn canolbwyntio ar hynny ac yn awr yn cyfiawnhau eu sicrwydd eu bod yn dal, yn y bôn, yn wir Ewropeaid—fersiwn wahanol o Ewrop; rwy'n barod i gredu hynny—wrth i ni weithio drwy'r manylion yn awr. Ond nid yw’n mynd i fod yn hawdd ei gyflawni, oherwydd pa fath o fynediad sydd gennym i’r farchnad sengl, a ydym yn aelod o EFTA neu beidio, neu'r AEE—mae pob math o oblygiadau i berthynas o’r fath. Mae'n rhaid i ni ddisgwyl trylwyredd gan y rhai a fydd yn awr yn trafod, ac efallai y byddant yn wynebu cryn ansefydlogrwydd economaidd, hefyd, ar union adeg y trafodaethau y mae arnom angen iddynt lwyddo fwyaf.
Bydd yn rhaid i nifer o faterion gael eu harchwilio hefyd am ein dyfodol fel gwladwriaeth Brydeinig—pa fath o DU fydd yn awr yn ymddangos yn sgil Brexit. Bydd yn rhaid i ni addasu mewn ffordd eithaf rhyfeddol er mwyn goroesi, a hynny yn nhermau cyfansoddiadol, ariannol ac economaidd. Mae'r siawns o ymwahaniad Albanaidd wedi cynyddu'n sylweddol. Nid wyf yn gwybod a ydynt yn debygol eto, ond rydym ni ar adeg dyngedfennol, ac mae p’un a ydym yn cadw’r undeb yn un yn dibynnu i raddau helaeth ar ba fath o weledigaeth sydd gennym yn awr ar gyfer y berthynas yr ydym yn dymuno ei chael â'r Undeb Ewropeaidd.
Mae'n glir iawn i mi fod buddiannau cryf Cymru'n yn dod i'r amlwg yn awr, a’u bod ymhell y tu hwnt i bleidgarwch. Mae'r DU yn undeb o genhedloedd, ac y mae angen i lunwyr polisi yn San Steffan bwysleisio a chofio hynny wrth iddynt drafod Brexit, ac mae'n rhywbeth y mae angen i ni ei gofio. Rydym ni yma—ni yw fforwm gwleidyddiaeth Cymru ac mae’r cyfrifoldeb hwnnw yn rhywbeth y mae'n rhaid i ni ei gofleidio yn llawn. I hybu buddiannau Cymru y cytunwyd arnynt, rwy’n credu, felly, y dylid annog gweithio trawsbleidiol grymus yn y Cynulliad—yn y Cynulliad ac, o bosibl, gyda’r Llywodraeth hefyd, wrth iddi gydweithio â holl bleidiau y fforwm hwn. Lywydd, bydd yn rhaid i’r pumed Cynulliad ddangos ei fod yn fforwm y gellir ymddiried ynddo ar gyfer hybu ac amddiffyn buddiannau Cymru yn yr amseroedd hynod heriol a wynebwn yn awr. Os byddwn yn methu, bydd yr alarnad drist honno yn atseinio, 'Cry, the beloved country’.