Part of the debate – Senedd Cymru am 3:17 pm ar 28 Mehefin 2016.
Diolch am yr ymyriad hwnnw. Rwy’n derbyn y pwynt y bu sylwadau di-fudd iawn mewn rhywfaint o'r wasg ar ymateb ein cymunedau. Nid wyf yn derbyn y pwynt arall a godwyd gennych, ond rwy’n derbyn pwynt hwnnw, yn sicr.
Mewn gwirionedd, gwnaed addewidion yn ystod yr ymgyrch hon, ac maen nhw wedi cael eu crybwyll eto heddiw ar sawl achlysur, ac yn fy marn i, yr hyn y pleidleisiodd pobl Cymru drosto yr wythnos diwethaf oedd, ie, cael dod allan o'r UE, ond hefyd am i’r arian a gaiff Cymru ar hyn o bryd gan yr UE i gael ei ad-dalu gan Lywodraeth Prydain. Mae penderfyniad Brexit i ni yng Nghymru yn golygu'r ddau beth hyn gyda’i gilydd, ac mae sut yr ydym yn ymateb i'r penderfyniad hwnnw yn y lle hwn yn hanfodol. Nid wyf i fy hun, yn canfod yn y canlyniad unrhyw ddyhead cyhoeddus ar hyn o bryd i gael setliad datganoli llawer ehangach na'r hyn yr ydym eisoes yn ei drafod, ond bydd yn rhaid aros i weld a yw hynny'n dal i fod yn wir wrth i ddyfodol y Deyrnas Unedig ddatblygu. Ond rwy’n credu bod pobl a bleidleisiodd i adael yr UE wedi gwneud hynny yn y gred gadarn y byddai’r prosiectau, y seilwaith, y rhaglenni sgiliau, ac yn y blaen, sy’n ffurfio rhan hanfodol o'u cymunedau yn parhau ar ryw ffurf. Ac felly, mae'n rhaid i ni ymateb i hynny mewn ffordd bendant. Rwy’n credu mai nawr yw'r amser i ddatrys y cwestiwn o sut y mae Cymru yn cael ei hariannu gan San Steffan, a’i roi ar sylfaen gadarn. Rhaid i ymrwymiad cyllido newydd adlewyrchu gwahanol anghenion pobl Cymru, a rhaid iddo adlewyrchu, yn llawn, y ffaith bod yr arian Ewropeaidd wedi’i golli. Rydym yn cael ein harwain i gredu y bydd Trysorlys ei Mawrhydi yn awr yn gwneud arbediad sylweddol bob blwyddyn, a rhaid i drysorlys Cymru dderbyn ei gyfran deg o hynny. Mae addewidion wedi eu gwneud, ac yn awr yw'r amser iddynt gael eu cadw.
Felly, rwy’n credu bod angen i ni gynnwys gwarant o ran y gyfraith cyllido o fewn pensaernïaeth statudol cyfansoddiad Cymru sy'n dod i'r amlwg. Rhaid iddo ddisgrifio'r egwyddorion lefel uchel sy'n sail i fformiwla ariannu deg. Mae’r cyn-Brif Weinidog, Rhodri Morgan, wedi dweud mai cydraddoldeb ac ailddosbarthu yw’r egwyddorion arweiniol yn hyn o beth, a rhaid iddo hefyd ddisgrifio sut y byddai anghydfod dros y cyllid hwnnw yn cael ei datrys.
Nid wyf yn credu y bydd y cyhoedd yng Nghymru yn diolch i ni os ydym yn ymateb i'w dyfarniad—sydd, yn fy marn i, yn ymwneud yn rhannol â pherthnasedd bywyd gwleidyddol i'w bywydau—â thrafodaeth helaeth am ffurf a phwerau San Steffan a Bae Caerdydd. Os ydym wedi cael clywed unrhyw beth gan bobl ledled Cymru, yr angen i ni wneud mwy i ymdrin â'r materion bara menyn, y brwydrau dyddiol y mae ein cymunedau yn eu hwynebu, yw hynny. Ond, yn yr un modd, ni chawn faddeuant os byddwn yn methu â darparu, o ganlyniad i'r bleidlais hon, setliad ar gyfer Cymru sy'n mynd i'r afael, nid dim ond â chwestiwn ein perthynas ffurfiol â'r Undeb Ewropeaidd, ond hefyd sylfaen deg a diogel ar gyfer ariannu Cymru yn y dyfodol.