Part of the debate – Senedd Cymru am 3:32 pm ar 28 Mehefin 2016.
Maddeuwch i mi; arweinydd y Ceidwadwyr Cymreig—hen arferion, yn anffodus. Arweinydd y Ceidwadwyr Cymreig, yr hyn a ddywedodd—ei fod wedi cyflwyno’i hun fel rhywun sy'n gallu ychwanegu at y weledigaeth ar gyfer y dyfodol i Gymru. Yr hyn a glywsom heddiw oedd malu awyr blodeuog. Gofynnwyd iddo—. [Torri ar draws.] Rwy’n ceisio mynd i mewn i ysbryd y ddadl a bod yn garedig. Gofynnais iddo roi rhyw syniad i ni o'r cyfleoedd sy'n bodoli ac fe fethodd ag enwi un. Nawr, nid wyf yn ymhyfrydu yn hynny, oherwydd y perygl yw bod y rhai sydd wedi gwneud addewidion ar yr ochr ‘gadael’ yn gweld yr addewidion hynny yn chwalu. Bydd y bobl hynny a bleidleisiodd ‘gadael’ wedyn yn cymryd eu dicter allan mewn ffyrdd gwahanol, a fydd yn golygu y byddwn yn gweld cefnogaeth i bleidiau eithafol, hiliol y dde eithaf. Dyna fy mhryder mawr, mawr, ac felly mae dyletswydd a chyfrifoldeb ar bob un ohonom, gan gynnwys yr ymgyrchwyr ‘gadael’, i egluro beth sy'n digwydd nesaf ac i wneud hynny yn gyflym, yn hytrach na dweud, 'Wel, bydd pob dim yn iawn; bydd yna arloesi yma' a beth bynnag a ddywedodd. Mae angen mwy na malu awyr arnom; mae angen manylion arnom ni.
Rwy’n dweud wrth arweinydd y Ceidwadwyr Cymreig—rwyf wedi ei gael yn iawn y tro hwn—bod yn rhaid i’r bleidlais hon beidio â chael ei defnyddio fel rheswm i hidlo pwerau i ffwrdd oddi wrth bobl Cymru. Mae ei union eiriau gen i o fy mlaen, yr hyn a ddywedodd y prynhawn yma. Dywedodd, ac rwy’n dyfynnu:
mae'n hanfodol bod buddiannau Cymru yn cael eu hamddiffyn a’u diogelu—
Iawn.
—a bod cymunedau sydd wedi cael yr arian hwn wedi’i wario yn cael yr hyder y bydd yr arian yn parhau boed yn dod o'r Trysorlys yn Llundain neu Lywodraeth Cymru.
Ni all Llywodraeth Cymru wneud yr arian hwnnw i fyny; gallaf ddweud hynny wrthych yn nawr. Ac yna ychwanegodd:
Gallai’r arian hwnnw... ddod yn uniongyrchol o San Steffan .... Pam y dylai Llywodraeth Cymru drin yr arian?
Dyna beth ddywedodd. Rwy'n dweud hyn wrtho yn awr: mae datblygu economaidd wedi'i ddatganoli.