Part of the debate – Senedd Cymru am 3:34 pm ar 28 Mehefin 2016.
Mae wedi treulio misoedd a misoedd yn cwyno am arian yn cael ei reoli o Frwsel, gan ddweud y dylai ddod i Gymru, ac mae bellach yn dweud y dylai gael ei reoli gan y Trysorlys yn Llundain. Nid yw hynny yn cyd-fynd â datganoli. Nid dyna'r hyn a addawyd gan yr ymgyrch ‘gadael’. Ni fyddwn ni fyth yn cefnogi hynny, neu yn cytuno â hynny, yn y Cynulliad hwn, ar yr ochr hon ac eraill y tŷ. Mae'n rhaid iddo roi'r gorau i feddwl fel rhywun sy’n eistedd yn San Steffan a meddwl am rywun sy’n eistedd yng Nghymru, a dechrau meddwl am yr hyn y mae'n ei olygu i Gymru. Nid oes achos, dim achos o gwbl, dros awgrymu na ddylai'r arian a gawsom gan Ewrop ddod i Gymru, ond mae'n debyg y dylai eistedd yn Llundain, yn ôl disgresiwn y Trysorlys o ran sut y caiff ei wario. Dyna beth a ddywedodd. Ac yn awr mae’n cael ei ddal gan ei eiriau ei hun, y gwnaeth eu gwadu yn gynharach yn y Siambr. Mae angen iddo esbonio i’w blaid ei hun—pe gallech weld eu hwynebau—. Mae angen iddo esbonio i’w blaid ei hun pam, yn sydyn, bod yr hyn a ddywedwyd, yr addewid a wnaed y byddai'r arian hwn yn dod i Gymru, yn awr yn mynd i beidio â dod i Gymru i’r Cynulliad etholedig hwn i benderfynu sut i’w wario. Ac mae hynny’n ymosodiad sylfaenol ar ddatganoli. Heb ei ailadrodd gan UKIP—heb ei ailadrodd gan UKIP. Mae'n dangos i ba gyfeiriad y mae’r Ceidwadwyr yn mynd.
Gwrandewais yn ofalus ar y pwyntiau eraill a wnaethpwyd gan Aelodau eraill, yn enwedig ar arweinydd yr wrthblaid, gwrandewais arni’n ofalus. Nid yw hi a minnau yn yr un sefyllfa pan ddaw at yr hyn y mae hi wedi’i awgrymu heddiw, sef annibyniaeth yn yr UE, gan fod pobl Cymru wedi pleidleisio i adael yr UE. Rwy'n meddwl bod anawsterau wrth awgrymu'r ffordd honno ymlaen, pan fod pobl eisoes wedi dweud eu bod eisiau gadael. Ond mae'n iawn dweud bod angen newid cyfansoddiadol. Ni all y DU fynd ymlaen fel y mae, neu ni fydd yn mynd ymlaen. Nid wyf yn rhannu optimistiaeth yr Aelod David Rowlands y bydd y DU yn parhau am byth a diwrnod. Dyma’r bygythiad mwyaf i'r DU sydd wedi ei beri erioed. Rydym yn gweld y polau piniwn eto yn yr Alban—nid bod unrhyw un yn gallu ymddiried mewn polau, o reidrwydd, ond rwy’n ofni fod yr hyn sy'n digwydd yn yr Alban yn wahanol iawn i'r hyn oedd yn digwydd yno yn 2014, ac fe fydd yna effaith ar Gymru. Rydym yn gwybod y bydd yna effaith ar Ogledd Iwerddon.
Rwyf yn y sefyllfa ryfedd hon yn awr, ble, o'r pedwar yn fy nghartref, fi yw'r unig un na fydd yn y dyfodol â hawl i fyw a gweithio yn unrhyw le yn yr UE. Bydd pawb arall, oherwydd bod ganddynt genedligrwydd deuol. Ac mae'n dangos bod hyd yn oed teuluoedd mewn sefyllfaoedd gwahanol oherwydd y bleidlais a ddigwyddodd yr wythnos diwethaf.
Rydym yn gwybod, yng Ngogledd Iwerddon, bod problemau gyda'r ffin, oherwydd ei fod yn ffin agored, a bydd y polisi mewnfudo ar y ddwy ochr yn wahanol. Ac felly mae materion mawr ynghylch sut y bydd y ffin honno yn cael ei monitro, a sut y bydd y ffin yn cael ei phatrolio. Nid ydynt yn faterion sy'n effeithio yn uniongyrchol arnom ni yng Nghymru, ond maent yn effeithio ar y DU a'i pherthynas â'r Undeb Ewropeaidd trwy’r ffin honno ar y tir.
A gaf i ymdrin â'r mater o fasnach rydd? Mae mynediad at y farchnad sengl yn gwbl sylfaenol hanfodol i ffyniant Cymru. Os na chawn fynediad rhydd a dilyffethair at y farchnad sengl, bydd llawer o'n busnesau yn cael eu rhoi o dan anfantais na fydd yn berthnasol i’w cystadleuwyr mewn mannau eraill yn yr UE. Os ydych yn edrych ar y diwydiant modurol, mae tariff o 5 y cant ar rannau modurol, tariff o 10 y cant ar fewnforio ceir; rheolau Sefydliad Masnach y Byd yw’r rhain. Mae hynny'n effeithio ar gynifer o ffatrïoedd modurol Cymru, nid lleiaf fy un fy hun ym Mhen-y-bont ar Ogwr. Oni bai fod cytundeb masnach ar y bwrdd sy'n cael gwared ar yr ofn a’r perygl o dariffau, ni fydd y ffatrïoedd hynny yn gallu cystadlu, oherwydd bydd yr hyn y maen nhw'n ei gynhyrchu yn awtomatig yn fwy costus na ffatrïoedd mewn mannau eraill. Nawr, mae’r awgrym wedi ei wneud, wel, mae Ewrop yn allforio mwy i'r DU nag y mae’r DU yn ei allforio yn ôl. Wel, mae’r Undeb Ewropeaidd wyth gwaith yn fwy na'r DU, felly, mewn termau ariannol, wrth gwrs mae mwy yn cael ei allforio o'r UE i Brydain na'r ffordd arall. Ond, os ydych yn edrych ar y canrannau, mae bron i 50 y cant o'r hyn y mae'r DU yn ei allforio yn mynd i'r UE. Mae'r symudiad yn ôl rhwng 7 y cant a 10 y cant. A dweud y gwir, rydym yn llawer mwy dibynnol ar allu allforio’n rhydd i mewn i'r UE nag y mae’r UE i ni.
Os byddwn yn edrych ar y farchnad ceir, mae pobl wedi dweud, 'Wel, bydd gweithgynhyrchwyr ceir Almaeneg yn awyddus i allforio'. Yr anhawster yw y gall brandiau fel BMW allforio gyda thariff o 10 y cant a bydd pobl yn dal i’w prynu nhw, oherwydd bod pobl yn ei weld fel car mawreddog i'w brynu. Nid yw'n berthnasol i bob brand o gar, a dyna’r perygl sy'n ein hwynebu. Felly, mae'n gwbl hanfodol bod y symudiad rhydd o nwyddau a gwasanaethau yn parhau rhwng y DU a'r UE.
Nawr, mae'n rhaid i ni gofio, yn y trafodaethau a fydd yn digwydd, y bydd Llywodraeth y DU, yn anochel, yn cymryd yr awenau. Bydd gennym ein dull ein hunain o drafod â’r UE. Ond bydd Llywodraeth y DU yn trafod yn bennaf fel Llywodraeth y DU, ond weithiau fel Llywodraeth Lloegr, pan ddaw at amaethyddiaeth a physgodfeydd. Ni fydd yn trafod fel y DU bob amser. Dyna pam, i mi, mae'n gwbl hanfodol, pan fydd bargen ar y bwrdd, ei bod yn cael ei chadarnhau ar wahân gan bob un o'r seneddau cenedlaethol. Yna byddwn yn cael ymrwymiad priodol i unrhyw gytundeb masnach. Nid yw'n ddigon da i’r Senedd yn San Steffan yn unig ei gadarnhau, pan fydd meysydd megis amaethyddiaeth a physgodfeydd, sydd wedi eu datganoli'n llwyr, yn cael eu heffeithio. Ac felly, mae'n rhaid i’r ddeddfwrfa etholedig hon gael llais cryf—yn wir, proses gadarnhau ar gyfer hynny.
Cododd yr Aelod Steffan Lewis rai pwyntiau pwysig. Trafododd yn gyntaf oll—siaradodd yn gyntaf oll—am yr angen am Fil tegwch economaidd. Dydw i ddim yn hollol siŵr beth fyddai hynny'n ei olygu. Nid wyf yn golygu hynny mewn ffordd feirniadol, dydw i ddim yn hollol glir am y peth, oherwydd yr hyn yr ydym yn ei weld yw, pan fo buddsoddwyr yn dod i Gymru, maent am fynd i safle penodol yng Nghymru. Ni allwch ddweud wrthynt, "Ni allwch fynd i’r fan yna; mae'n rhaid i chi fynd i’r fan yna’. Felly, nid oedd Aston Martin erioed yn bwriadu mynd i unrhyw le heblaw Sain Tathan. Nid oedd yn mynd i fynd i unrhyw le arall. Felly, nid yw mor hawdd ag y mae'n swnio i ddweud, 'Wel, byddwn yn sicrhau bod buddsoddiad yn teithio ar hyd a lled Cymru’, gan nad yw cwmnïau preifat yn gweithio fel’na. Mae buddsoddiad cyhoeddus yn haws, yn amlwg; ond mae buddsoddiad preifat yn llawer mwy anodd.
Soniodd am fanc buddsoddi yr ynysoedd—diddorol a rhywbeth, wrth gwrs, rwy'n siŵr y bydd yn cael ei archwilio yn ystod y misoedd sydd i ddod, a siaradodd hefyd am Gymru yn torri ei chwys ei hun yn y byd. Mae'n rhaid i mi ddweud bod Masnach a Buddsoddi y DU wedi bod yn hynod gefnogol i ni wrth i ni deithio o amgylch y byd. Rydym wedi derbyn cefnogaeth ganddynt. Mae llysgenadaethau o gwmpas y byd wedi bod yn ddim ond cefnogol i ni o ran denu buddsoddiad i Gymru. Rydym wedi agor swyddfeydd mewn gwahanol rannau o'r byd lle’r ydym yn gwybod y gallwn ni fod yn effeithiol wrth ychwanegu rhywbeth mwy o ran llais Cymru. Ond nid wyf yn credu y bydd canlyniad yr wythnos diwethaf yn newid ein gallu i werthu ein hunain i'r byd o ran bod yn gallu cyflwyno Cymru i'r byd. Bydd yn effeithio, wrth gwrs, ar yr hyn yr ydym yn gallu ei gynnig o ran mynediad at farchnad os nad oes cytundeb ar y bwrdd. Un o'r materion yr ydym bob amser yn ymgodymu ag ef yw, os ydym yn ystyried ehangu ein presenoldeb mewn gwlad arbennig, a ydym yn ehangu presenoldeb mewn un wlad neu a ydym yn agor swyddfa mewn un arall? Mae'r rhain yn faterion yr ydym yn ymgodymu â nhw yn gyson. Ond rydym yn gwybod bod y swyddfeydd yn yr Unol Daleithiau ac India, yn arbennig, yn hynod, hynod o bwysig o ran cyflwyno Cymru fel lle i fuddsoddi, a bydd hynny'n parhau.
Gwrandewais yn ofalus ar Mark Isherwood. Flynyddoedd lawer yn ôl, bydd yr Aelodau'n cofio Steve Wright pan oedd ar Radio 1. Roedd ganddo gymeriad o'r enw Mr Angry o Purley, a oedd yn rhywun a oedd yn dechrau’n dawel ac yna'n cynddeiriogi, bron yn tagu ar ei gynddaredd ei hun. Wel, fe wnaeth ef hynny eto heddiw. Mae ef, wedi'r cyfan, yn rhywun yn y Siambr hon a’n disgrifiodd ni unwaith ar y meinciau hyn fel 'ffasgwyr adain chwith'. Felly, rwy’n cofio’r ymadrodd hwnnw. Ond rhaid i mi ddweud wrtho, mae'n sôn am gynhwysiant—am flynyddoedd roedd gan ei blaid ef Ysgrifenyddion Gwladol Cymru nad oedd hyd yn oed yn cynrychioli etholaethau Cymreig. Ni fyddwn yn cymryd gwersi gan y blaid Geidwadol am gynhwysiant pan oedd ganddynt bobl yn ein cynrychioli nad oedd ganddynt unrhyw gysylltiad o gwbl â phobl Cymru. Diolch byth, mae’r dyddiau hynny wedi newid.
Gwrandewais ar yr hyn a oedd gan Caroline Jones i'w ddweud ac rwy’n meddwl fy mod wedi delio â hynny o ran yr hyn a ddywedodd am agosrwydd canlyniad y refferendwm. Ond mae'n rhaid i ni ddeall y dywedir bod yna gyfleoedd. Dydyn nhw ddim yn amlwg eto—ddim yn amlwg eto. Nid wyf wedi clywed dim yn y Siambr hon sy'n cyflwyno eu hunain fel cyfleoedd. Rydym yn gwybod bod yna heriau. Iawn, dyna beth mae pobl Cymru wedi’i gyflwyno a dyna beth y mae pobl Prydain wedi’i gyflwyno; mae'n rhaid i ni fwrw ymlaen â'r gwaith. Ond mae'n hynod o bwysig, fel yr wyf wedi dweud, i’r ymgyrchwyr ‘gadael’ feddwl am syniad o sut y maent yn credu y bydd y DU yn edrych. Pa fath o berthynas sydd gennym â’r UE? Pa fath o berthynas sydd gennym ar lwyfan y byd? Os nad yw hynny'n groyw ac yn glir— [Torri ar draws.] —mewn eiliad. Os nad yw hynny'n groyw ac yn glir, yna bydd y bwlch hwnnw yn cael ei lenwi gan y rhai sydd yn fwy eithafol.