Part of the debate – Senedd Cymru am 3:43 pm ar 28 Mehefin 2016.
Mae croeso i'r Aelod ar y meinciau hyn fynegi’i farn bob amser. Ond mae'n iawn—mae’n iawn. Gan y bydd yr Aelodau'n gwybod bod cael arian allan o'r Trysorlys, tegwch, fformiwla Barnett, toll teithwyr awyr—yr ateb oedd 'na' bob amser, oherwydd nid yw pobl Cymru a’u barn yn bwysig yn ôl pob golwg. Wel, mae’n rhaid i hynny newid. Mae eraill wedi ei ddweud yn y Siambr hon a byddaf yn ailadrodd unwaith eto: ein harian ni yw e ac mae angen iddo ddod i Gymru er mwyn i’r ddeddfwrfa hon benderfynu sut y caiff yr arian ei ddosbarthu. Ni fydd unrhyw beth arall yn dderbyniol.
Felly, rydym yn wynebu byd gwahanol, math gwahanol o wleidyddiaeth, a byd ansicr iawn. Nid ydym yn gwybod beth fydd y berthynas â’r UE. Nid ydym yn gwybod sut fydd y DU, os yw'n bodoli, yn edrych dros yr ychydig flynyddoedd nesaf. Yr hyn sy'n hynod o bwysig, yn fy marn i, i bob un ohonom yn y Siambr hon, yw darparu atebion. Efallai na fyddant yn atebion y byddwn ni i gyd yn cytuno arnynt, ond, os byddwn yn methu â darparu gweledigaeth ar gyfer ffordd ymlaen, pa bynnag wahaniaethau sydd rhwng y gwahanol weledigaethau, yna bydd y bwlch yn cael ei lenwi gan y rhai y mae eu barn yn llawer mwy eithafol. Rydym weithiau yn credu na allai’r 1930au a'r amodau hynny fyth ddychwelyd, ond dydw i ddim yn argyhoeddedig. Felly, mae'n bwysig i wleidyddion democrataidd wneud yn siŵr eu bod yn adennill hyder y cyhoedd, adennill ymddiriedaeth y cyhoedd, a gwneud yn siŵr bod gennym ffyniant, cyfiawnder a thegwch i'n cenedl.