Part of the debate – Senedd Cymru ar 28 Mehefin 2016.
Cynnig NDM6037 Elin Jones
Bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheol Sefydlog 16.1, yn sefydlu Pwyllgor yr Economi, Seilwaith a Sgiliau i archwilio deddfwriaeth a dwyn Llywodraeth Cymru i gyfrif drwy graffu ar ei gwariant, ei gweinyddiaeth a'i pholisïau, yn cwmpasu'r meysydd a ganlyn (ond heb fod yn gyfyngedig iddynt): datblygu economaidd; trafnidiaeth; seilwaith; cyflogaeth; sgiliau; a gwaith ymchwil a datblygu, gan gynnwys technoleg a gwyddoniaeth.