Part of the debate – Senedd Cymru am 5:26 pm ar 28 Mehefin 2016.
Diolch ichi, Lywydd. Nodaf fod Ysgrifennydd y Cabinet yn cydnabod yr angen am wybodaeth ynghylch anghenion aelodau cyfredol a chyn-aelodau o’r lluoedd arfog. A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet ymrwymo i lobïo Llywodraeth y DU i gynnwys cwestiynau yn y cyfrifiad nesaf i bennu anghenion aelodau cyfredol a chyn-aelodau o’r lluoedd arfog a'u plant, fel y gellir targedu gwasanaethau ar eu cyfer yn fwy priodol, yn unol â chais y Lleng Brydeinig Frenhinol?