Part of 1. 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid a Llywodraeth Leol – Senedd Cymru am 2:00 pm ar 29 Mehefin 2016.
Diolch i chi am yr ateb hwnnw, Ysgrifennydd y Cabinet, ond roedd ymgyrch y refferendwm, yn enwedig tuag at y diwedd, yn llawn o anoddefgarwch, ac mae’r gwenwyn hwnnw wedi ymdreiddio i fywyd cyhoeddus. Rydym i gyd wedi gweld adroddiadau am gam-drin hiliol ar ein strydoedd. Rydym hefyd, diolch byth, wedi gweld yr ymateb iddo yn Llanelli ac mewn mannau eraill lle mae pobl leol yn cefnogi ac yn amddiffyn eu cymdogion o Ddwyrain Ewrop, ac rwy’n deall y bydd y Prif Weinidog yn ymweld â Chymdeithas Pwyliaid Cymru yn Llanelli yfory. Ond mae’r ffaith yn aros fod Heddlu Dyfed-Powys wedi cofnodi cynnydd sylweddol mewn troseddau casineb o gymharu â’r mis hwn y llynedd. Felly, mae’n amlwg bod angen i ni wella’r clwyfau yn awr. Felly, Ysgrifennydd y Cabinet, a wnewch chi, gyda Chymdeithas Llywodraeth Leol Cymru a phartneriaid eraill, roi camau ar waith i ddiogelu a chryfhau cysylltiadau cymunedol rhwng pobl o bob cenedl a diwylliant yn ystod y cyfnod cythryblus hwn?