Part of 1. 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid a Llywodraeth Leol – Senedd Cymru am 2:03 pm ar 29 Mehefin 2016.
Diolch yn fawr i’r Aelod am beth y mae hi wedi’i ddweud. Wrth gwrs, mae’n bwysig inni wneud mwy na jest siarad yma yn y Siambr, so mae nifer o bethau rwy’n eu gwneud yn bersonol dros yr wythnos nesaf: mae gyda fi gyfarfod â’r WLGA ddydd Gwener—rwy’n mynd i siarad â nhw—ac mae gyda fi gyfarfod â’r Muslim Council of Wales wythnos nesaf. Mae yn bwysig inni ddod at ein gilydd fel yna, i siarad â’n gilydd am beth rŷm ni’n gallu ei wneud, i ymdrechu gyda’n gilydd, i fod yn glir am beth rŷm ni eisiau ei wneud yma yng Nghymru ac i’w wneud e gyda’n gilydd, fel mae’r Aelod yn sôn.