Part of 1. 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid a Llywodraeth Leol – Senedd Cymru am 2:05 pm ar 29 Mehefin 2016.
Diolch i chi am hynny, Ysgrifennydd. Mae yna brosiectau eraill, wrth gwrs, sydd wedi cael eu hariannu â chyllid Banc Buddsoddi Ewrop, gan gynnwys campws Abertawe, yr A55 ac yn hollbwysig, prosiectau sydd yn yr arfaeth fel metro de Cymru. Nawr, mae cytuniad yr Undeb Ewropeaidd yn dweud yn glir fod yn rhaid i aelodau o Fanc Buddsoddi Ewrop fod yn aelodau o’r Undeb Ewropeaidd. Serch hynny, mae Banc Buddsoddi Ewrop wedi buddsoddi mewn pedair gwlad yn ardal masnach rydd Ewrop, ac roeddwn yn meddwl tybed a fyddai’r Ysgrifennydd yn gallu rhoi pwysau, yn ystod y trafodaethau, er mwyn sicrhau y byddwn yn parhau i allu cyfranogi o gyllid Banc Buddsoddi Ewrop.