Part of 1. 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid a Llywodraeth Leol – Senedd Cymru am 2:09 pm ar 29 Mehefin 2016.
Diolch i chi am yr ateb calonogol hwnnw, Brif—Ysgrifennydd y Cabinet; fe ddof i ddeall hyn. [Chwerthin.] Wrth gwrs, ceir llawer o enghreifftiau o weithio mewn partneriaeth rhwng awdurdodau lleol ac eraill, yn enwedig byrddau iechyd, i ddarparu gwasanaethau cymdeithasol, ond credaf fod y gair ‘darparu’ yn dweud y cyfan mewn gwirionedd, yn enwedig am y ffordd yr ydym fel poblogaeth yn gweithio i gefnogi’r rheini y ceisiwn eu helpu. Rwy’n credu bod Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015, er gwaethaf ei holl ddiffygion, yn pwyntio’n gadarn iawn i gyfeiriad cydgynhyrchu, rôl cwmnïau cydfuddiannol a sefydliadau cymdeithasol eraill fel tir ffrwythlon ar gyfer datblygu modelau newydd o wasanaethau cynaliadwy, gan gynnwys gwasanaethau cymdeithasol. A ydych yn gweld y rhain, fel yr awgryma’r ymateb i adroddiad comisiwn Williams, fel dewis olaf pan fydd y sector cyhoeddus yn methu neu a ydych yn cytuno bod angen i ni edrych ymlaen at gydbwysedd newydd rhwng gwladwriaeth a chymdeithas er mwyn sicrhau’r ateb sy’n gweddu orau ar gyfer gwasanaethau cyhoeddus a’r cyhoedd y maent yn eu gwasanaethu?